Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Dechrau gwych i Fragdy'r Gogarth yn 2017!

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 6/2/2017 / ION leadership news

Felicity Roberts - Rheolwr Datblygu Busnes - 3ydd Chwefror 2017

Dosbarth Meistr mewn bragdy ddywedoch chi?? 

Ia – dyna chi!

Llawer o ddiolch i Fragdy’r Gogarth am gynnal Dosbarth Meistr ychwanegol ein rhaglen Arweinyddiaeth Uwch yn ei adeilad hynod ac i’r perchennog, Jonathan Hughes, am roi sgwrs onest ac ysbrydoledig i’n cynrychiolwyr am ei brofiadau personol ei hun wrth sefydlu Bragdy’r Gogarth a’r heriau gweithredol a wynebodd wrth wneud hynny.  

Cyn cael platiad swmpus a bendigedig o stiw cig eidion a chwrw i ginio, cafodd y cynrychiolwyr eu tywys ar daith o amgylch y bragdy ei hun i ddysgu am y broses fragu ac i’w cyflwyno i fragau amrywiol (gan gynnwys siocled!), ynghyd â gwers mewn labelu! 

 Orme brewery 2Orme brewery 3

Orme_brewery_1.jpg

Dosbarth Meistr Bragdy’r Gogarth - Tristian Greenfield (Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bragdy'r Gogarth) yn cyflwyno'r amrywiol fragau

Estynnwyd croeso hefyd i Stephen Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Distyllfa Penderyn, a fu’n esbonio dull Penderyn o frandio, ei strategaeth dwf a’i weithrediadau allforio a chynhyrchu.   Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Stephen fod cynrychiolwyr rhaglen ION wedi gwneud argraff arno oherwydd eu bod “mor frwdfrydig dros dwf eu mentrau eu hunain ond hefyd yn dangos eu bod yn malio am yr amgylchedd busnes ehangach a’u bod, fel grŵp o arweinwyr busnes, yn awyddus i rannu a dysgu.  Mae hwn yn amgylchedd gwych i ddatblygu fel rhywun proffesiynol ym maes busnes ynddo, gydag arweinydd grŵp sydd wedi dewis astudiaethau achos da ac sy’n cynnig cyngor ymarferol a phragmatig.  Mae’n wych i fod yn rhan o rwydwaith fel hwn”.

       Orme brewery 4

Tom Barham (ION), Stephen Davies (Distyllfa Penderyn) a Tristan Greenfield (Bragdy’r Gogarth)

Hoffai tîm ION Leadership hefyd estyn croeso arbennig i’n cohort datblygu arweinyddiaeth newydd a ddechreuodd yn ddiweddar!  Gydag amrywiaeth o fusnesau a phrofiadau yn yr ystafell a phob un am dyfu ei fusnes drwy arweinyddiaeth well, rydym yn edrych ymlaen at helpu ein cynrychiolwyr ar eu taith tuag at arweinyddiaeth a gyda sesiwn Dysgu Drwy Brofiad Dros Nos wedi’i threfnu ar gyfer diwedd y mis hwn yng Ngwesty’r Bulkeley ym Miwmares,  cadwch lygad am ragor o wybodaeth yma!


A hoffech chi fod yn rhan o'r profiad ION, datblygu eich sgiliau arwain a thyfu eich busnes?

Cofrestrwch ar gyfer yr Garfan nesaf sydd ar gael yn eich ardal chi!


 

Sylwadau