""Gallaf fynd â llawer o'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn ôl i'r busnes. Roedd person arall o'r un busnes ar y cwrs yma gyda mi a byddai'n wych i'r ddau ohonon ni eistedd i lawr, adlewyrchu ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu a mynd â hynny yn ôl i mewn i'r busnes"."
Aled Jones, Rheolwr Cynhyrchion, Hospital Innovations
Dysgu mwy""Rydw i wastad wedi argymell y cwrs yma o'r dechrau un ers y profiad dros nos. Hwn oedd y cwrs mwyaf pleserus i mi ei wneud erioed (ac rydw i wedi gwneud cryn dipyn!). Fe wnaeth fy merch a fy mhartner busnes ddilyn y cwrs, roedd gennym ni reolwr arall wnaeth ei gwblhau y llynedd ac un arall yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Rydw i'n meddwl y dylai pob person o fewn rôl arweinyddiaeth brofi'r cwrs yma. Mae'n wahanol i unrhyw un arall ac mae'r sgiliau sydd wedi’u dysgu, a’r twf personol, yn rhywbeth na ddylid ei golli. Mae’n siŵr o ysbrydoli unrhyw arweinydd, mae’n siŵr o ddod â gwên i wythnos o straen a rhai strategaethau i'ch helpu chi drwyddi. Rydw i’n credu bod hwn yn un cwrs na fedr fethu yn syml iawn"."
Dysgu mwyMae ein safle yn gofyn cwcis i weithio. Mwy o wybodaeth