Telerau ac Amodau Defnyddio'r Wefan
DARLLENWCH Y TELERAU A’R AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R SAFLE HON OS GWELWCH YN DDA
TELERAU DEFNYDDIO’R WEFAN
Mae’r telerau defnyddio hyn (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atyn nhw ynddo) yn dweud wrthych chi am delerau defnyddio y gallwch chi ddefnyddio ein gwefan www.ionleadership.co.uk (ein safle), un ai fel gwestai neu fel defnyddiwr cofrestredig. Mae defnyddio ein safle yn cynnwys mynediad, pori neu gofrestru i ddefnyddio ein safle.
Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio ein safle, oherwydd bydd y rhain yn berthnasol i’ch defnydd o’n safle. Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o hwn ar gyfer cyfeirio ato yn y dyfodol.
Drwy ddefnyddio ein safle, gallwch gadarnhau eich bod yn derbyn y telerau hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.
Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein safle.
TELERAU PERTHNASOL ERAILL
Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol sy’n berthnasol yn ogystal i’ch defnydd o’n safle:
- Ein Polisi Preifatrwydd, sy’n amlinellu’r telerau ar yr hyn rydym yn prosesu unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu gennych chi, neu rydych chi’n ei ddarparu inni. Drwy ddefnyddio ein safle, rydych chi’n cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych chi’n gwarantu bod yr holl ddata y gwnaethoch chi ei ddarparu yn fanwl gywir.
- Ein Telerau Talu, sy’n amlinellu’r telerau yr ydym ni yn eu defnyddio i brosesu taliadau a dderbyniwyd gennych chi.
GWYBODAETH AMDANOM NI
Mae www.ionleadership.co.uk yn safle sy’n cael ei weithredu gan Brifysgol Abertawe ("Ni"). Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad addysgol sydd wedi’i sefydlu gan Siarter Brenhinol ac elusen gofrestredig gyda’r rhif elusen 1138342, gyda’i swyddfa weinyddol ym Mharc Singleton, Abertawe SA2 8PP.
NEWIDIADAU I’R TELERAU HYN
Gallwn ddiwygio’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon.
Gwiriwch y dudalen hon o dro i dro os gwelwch yn dda er mwyn gweld unrhyw newidiadau yr ydym ni wedi’u gwneud, gan eu bod yn ymrwymol arnoch chi.
NEWIDIADAU I’N SAFLE
Gallwn ddiweddaru ein safle o dro i dro, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, nodwch os gwelwch yn dda y gall unrhyw gynnwys sydd ar ein safle fod wedi dyddio ar unrhyw adeg benodol, ac nid ydym o dan unrhyw orfodaeth i’w ddiweddaru.
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein safle, nac unrhyw gynnwys sydd arno, yn rhydd o unrhyw gamgymeriadau na hepgoriadau.
CAEL MYNEDIAD I’N SAFLE
Mae ein safle ar gael yn rhad ac am ddim.
Nid ydym yn gwarantu bod ein safle, nac unrhyw gynnwys sydd arno, ar gael neu heb ymyriad bob amser. Caniateir mynediad i’n safle ar sail dros dro. Gallwn atal, dileu, terfynu neu newid y cyfan neu unrhyw ran o’n safle heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os, am unrhyw reswm, nad yw ein safle ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yr holl drefniadau er mwyn i chi gael mynediad at ein safle.
Yn ogystal, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob unigolyn sy’n cael mynediad at ein safle drwy’ch cysylltiad chi i’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnyddio hyn a’r telerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio a nhw.
HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL
Ar wahân i’r nodau masnach trydydd parti sydd wedi cael eu cipio ar ein safle sy’n cael eu cydnabod trwy hyn, ni yw perchennog neu drwyddedwr yr holl hawliau eiddo deallusol ar ein safle, a’r deunydd sydd wedi cael ei gyhoeddi arno. Mae’r gweithiau hyn wedi cael eu gwarchod gan ddeddfau a chytundebau hawlfraint drwy’r byd. Cedwir holl hawliau o’r fath.
Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho darnau o unrhyw dudalen(nau) o’n safle ar gyfer eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill oddi mewn i’ch sefydliad at ddeunydd sydd wedi cael ei bostio ar ein safle.
Mae’n rhaid i chi beidio â newid copïau papur neu gopïau digidol o unrhyw ddeunydd yr ydych chi wedi’i argraffu neu wedi’i lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â gwahanu unrhyw luniau, ffotograffau, darnau fideo neu sain neu unrhyw waith graffeg oddi wrth y testun sydd gyda nhw.
Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron cynnwys ar ein safle bob amser.
Mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r deunydd ar ein safle ar gyfer dibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu gan ein trwyddedwyr.
Os ydych chi’n argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n safle yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben yn syth, a bydd yn rhaid i chi, yn unol â’n dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o ddeunydd yr ydych chi wedi eu gwneud.
DIM DIBYNIAETH AR WYBODAETH
Mae’r deunydd ar ein safle yn cael ei ddarparu ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech chi ddibynnu arno. Mae’n rhaid i chi dderbyn cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gweithredu, neu beidio â gweithredu, ar sail cynnwys ein gwefan.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein safle, nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau, gwarantoedd na gwarantau, lle mae’n cael ei fynegi neu’i awgrymu, bod y cynnwys ar ein gwefan yn fanwl gywir, yn gyflawn neu wedi cael ei ddiweddaru.
CYFYNGU AR EIN HATEBOLRWYDD
Nid oes dim yn y telerau hyn sy’n eithrio nac yn cyfyngu ein hatebolrwydd am farwolaeth nac anaf personol sy’n codi o’n hesgeulustod, na’n cynrychiolaeth dwyllodrus, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu’i gyfyngu drwy gyfraith Lloegr.
I’r graddau a ganiateir drwy gyfraith, rydym ni’n eithrio holl amodau, gwarantau, cynrychioliadau neu delerau eraill a all fod yn berthnasol i’n gwefan neu unrhyw gynnwys arno, os yw’n cael ei fynegi neu’n cael ei awgrymu.
Ni fyddwn ni yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled neu niwed, os ydyw mewn cytundeb, camwedd (yn cynnwys esgeulustod), tordyletswydd statudol neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â:
- defnydd, neu’r anallu i ddefnyddio, ein safle; neu
- defnydd neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys sy’n cael ei ddangos ar ein safle.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr, nodwch yn arbennig os gwelwch yn dda na fyddwn ni’n atebol am:
- golli elw, gwerthiant, busnes na refeniw;
- ymyriad busnes;
- colli cynilion a ragwelir;
- colli cyfle, ewyllys da neu enw da’r busnes; neu
- unrhyw golled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr masnachol, nodwch os gwelwch yn dda ein bod yn darparu ein gwefan ar gyfer defnydd domestig a phreifat. Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio ein safle ar gyfer unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi am unrhyw golli elw, colli busnes, ymyrraeth i’r busnes neu golli cyfle busnes.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan firws, ymosodiad atal gwasanaeth sydd wedi’i ddosbarthu, na ddeunydd niweidiol yn dechnolegol a all heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadur, data na deunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’n safle neu oherwydd eich bod yn lawrlwytho unrhyw gynnwys arno, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig ag ef.
Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu ar ein gwefan. Ni ddylai dolenni o’r fath gael eu dehongli fel ardystiad gennym ni o’r gwefannau hynny sydd wedi’u cysylltu. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled na difrod a all godi o’ch defnydd chi ohonyn nhw.
FIRYSAU
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein safle yn ddiogel nac yn rhydd o fygiau na firysau.
Rydych chi’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadur a’ch platfform er mwyn cael mynediad ar ein safle. Dylech chi ddefnyddio eich meddalwedd diogelu firws eich hun.
Mae’n rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein safle drwy gyflwyno firysau, firysau ceffyl pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Mae’n rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad anawdurdodedig i’n safle, y gweinydd sy’n storio ein safle neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n safle. Mae’n rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein safle drwy ymosodiad atal gwasanaeth nac ymosodiad atal gwasanaeth sydd wedi’i ddosbarthu. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni tramgwydd troseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw doriad i’r awdurdodau gorfodi cyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu iddyn nhw pwy ydych. Yn achos toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben yn syth.
CYSYLLTU Â’N SAFLE
Gallwch gael dolen i’n tudalen gartref, os ydych chi’n gwneud hynny yn y fath fodd sy’n deg a chyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
Mae’n rhaid i chi beidio â sefydlu dolen yn y fath fodd fel ei bod yn awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth nac ardystiad ar ein rhan lle nad oedd un yn bodoli.
Mae’n rhaid i chi beidio â sefydlu dolen i’n safle ar unrhyw wefan nad yw’n perthyn i chi.
Mae’n rhaid i’n safle beidio â chael ei fframio ar unrhyw safle arall, ac ni ellwch greu dolen i unrhyw ran o’n safle ar wahân i’r dudalen gartref.
Mae gennym yr hawl i dynnu caniatâd dolennu heb rybudd.
DOLENNI AC ADNODDAU TRYDYDD PARTI AR EIN SAFLE
Lle mae ein safle yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, mae’r dolenni yn cael eu darparu ar gyfer eich gwybodaeth chi yn unig.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny.
CYFRAITH BERTHNASOL
Mae’r telerau defnydd hyn, eu cynnwys a’u ffurfiad (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Mae’r ddau ohonom yn cytuno i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
SUT YR YDYM YN DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH BERSONOL
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n Polisi Preifatrwydd yn unig. Cymerwch amser os gwelwch yn dda i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd, gan ei fod yn cynnwys telerau pwysig sy’n berthnasol i chi.
Diolch i chi am ymweld â’n safle.