Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Amdanom ni

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae rhaglenni arweinyddiaeth ION yn gwreiddio newid parhaol a chadarnhaol mewn arferion arweinyddiaeth.

SoM.jpegMae'r rhaglen wedi bod ar waith ers 14 o flynyddoedd ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi cefnogi dros 1,900 o arweinwyr mewn dros 1,000 o fusnesau i ddod yn arweinwyr neilltuol.

Ers y 14 o flynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael ein hariannu gan WEFO/yr ESF ond, ym mis Ionawr 2024 pan ddaeth ein cyllid i ben, daethom yn rhan o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.

Effaith yw'r nod!

Etifeddiaeth ac effaith rhaglen arweinyddiaeth ION:

  • Roedd 94% o gyfranogwyr o'r farn bod cwblhau'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hunanhyder.
  • Roedd 98% o gyfranogwyr o'r farn bod cwblhau'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar eu parodrwydd i fabwysiadu arferion rheoli ac arweinyddiaeth newydd.
  • Mae 96% o gyfranogwyr yn debygol o ymgymryd â dysgu pellach.
  • Dywedodd 100% o'r cyfranogwyr a gwblhaodd y rhaglen fod y rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i feddwl yn strategol ac i gyfathrebu'n effeithiol.

(Adroddiad Gwerthuso Prosiect 2019-2022)

Fformiwla llwyddiant brofedig

Gan ymgolli mewn profiad dysgu drwy brofiad ymarferol, caiff cyfranogwyr y lle, yr amser a'r offer i arbrofi ag arddulliau arweinyddiaeth gwahanol, i gael eiliadau Eureka, i ddysgu gan ei gilydd ac i ddatblygu cynlluniau i ddiogelu eu gyrfa rhag y dyfodol.

Rydym am greu newid. Nid yw cyfranogwyr ar ein rhaglenni ni yn cyflawni eu cymhwyster ac wedyn yn rhoi'r ffolder ar y silff, yn diweddaru eu proffil LinkedIn ac yna'n mynd yn ôl i wneud pethau fel maent wedi'u gwneud ers cyn cof. Mae'r rhaglenni'n canolbwyntio ar ganfod atebion i'r heriau go iawn mae arweinwyr, ar bob lefel, yn eu hwynebu bob dydd. Ein nod yw grymuso cyfranogwyr i wneud newidiadau trawsffurfiol yn eu hymddygiad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cyflwyno ein rhaglenni ar y tudalennau Cyrsiau.

Cyflwyno'r Tîm

Mae tîm yng Nghymru sy'n helpu i ddiffinio math newydd o arweinydd.Adam_and_Suze.jpeg

Suzanne Parry Jones yw Arweinydd y Rhaglen ac mae ganddi 30 o flynyddoedd o brofiad mewn amrywiaeth o sectorau busnes, gan gynnwys gwerthu hysbysebion, recriwtio a gwerthiannau meddygol, cyn cymhwyso’n seicolegydd hyfforddi a lansio ei busnes ei hun fel hyfforddwr ac arbenigwr datblygu arweinyddiaeth. Gan ddod â chraffter masnachol helaeth i'r rôl, mae Suzanne yn frwdfrydig am bobl a'u galluogi i feithrin boddhad yn eu bywydau gweithio, ac mae hi'n ymdrechu i rymuso timau i weithio tuag at eu nodau.

Adam Fairbank yw'r Rheolwr Marchnata a Recriwtio. Mae gan Adam dros 20 mlynedd o brofiad marchnata, yn y sector cyhoeddus ac ym myd addysg, yn ogystal â'i brosiectau personol ei hun. Ymunodd â thîm ION yn 2019 fel arweinydd marchnata strategol â chyfrifoldeb am farchnata ein holl raglenni a recriwtio iddynt. Yn ogystal â gradd o Brifysgol Morgannwg a Chymhwyster gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), mae Adam wedi ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Arloesi Rhyngwladol yn ddiweddar.