Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Ymunwch 1900+ arweinwyr...

Pori drwy ein cyrsiau

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae rhaglenni arweinyddiaeth ION yn gwreiddio newid parhaol a chadarnhaol mewn arferion arweinyddiaeth.

Ers dros 14 o flynyddoedd, mae Arweinyddiaeth ION wedi cefnogi 1,900 o arweinwyr i fod yn arweinwyr neilltuol. Mae cyfranogwyr yn datblygu sgiliau o safon uchel â'r nod o gynyddu cynhyrchiant yn y gweithle, gan ddatblygu mentrau proffidiol a chynaliadwy sy'n cyfoethogi bywydau eu gweithwyr ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi.

Cyflwynir y rhaglenni hyn gan arbenigwyr busnes, sy'n entrepreneuriaid i'r carn ac maent yn seiliedig ar ddysgu ymarferol, drwy brofiad, gyda grŵp o gymheiriaid y gellir ymddiried ynddynt. Mae'r rhaglenni'n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i'r heriau go iawn mae arweinwyr, ar bob lefel, yn eu hwynebu bob dydd.

 

Cyrsiau yn y dyfodol

Gweld pob un

Blogau diweddaraf

Gweld pob un

Diolch am yr atgofion. Beth am i ni greu mwy.

Ar ein diwrnod gwaith olaf ni yn 2023, roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i ddweud diolch. Fel rydych chi’n gwybod, ar ddiwedd 2023 mae pennod gyfredol rhaglen arweinyddiaeth wych ION yn croesi ei llinell derfyn olaf wrth i'n cyllid ni gan WEFO / ESF ddod i ben.

Dysgu mwy

Un bennod yn dod i ben, ac un arall yn dechrau, ar gyfer ION leadership

Wrth i un bennod ddod i ben, ac un arall yn dechrau, ar gyfer ION leadership, mae Ceri Jones, y Cyfarwyddwr Ymchwil, Ymgysylltu a Gwasanaethau Arloesi (REIS), yn rhannu ei feddyliau am y rhaglen y gwnaeth ei chefnogi wrth iddi drosglwyddo i Gymru o ogledd orllewin Lloegr.

Dysgu mwy