Cyrsiau
Yn ION rydym yn cyflwyno rhaglenni arweinyddiaeth wedi'u targedu sy'n anelu at wella cynhyrchiant yn y gweithle, datblygu mentrau cynaliadwy a phroffidiol, a datblygu arweinwyr rhyfeddol.
Rhaglen Arweinwyr Newydd (ILM Lefel 3)
Wedi'i chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli rheolwyr a goruchwylwyr yng nghamau cynnar datblygiad eu sgiliau arwain, mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd i'w sefydliadau.
Bydd y rhaglen hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â swyddi niferus yn eu sefydliad, gan eu galluogi i gydbwyso anghenion gweithredol a strategol y busnes o ddydd i ddydd yn well.
Cyflwynir y cwrs drwy gymysgedd o ddosbarthiadau meistr hynod gyfranogol a dysgu drwy brofiad. Mae’r rhaglen hon wedi’i hardystio gan y CPDSO (The CPD Standards Office) ar gyfer hyd at 40 awr DPP (yn amodol ar bresenoldeb).
Gallwch glywed gan rai o gyn-gyfranogwyr ein rhaglen Arweinwyr Newydd ar ein Sianel You Tube.
Rhaglen Arwain Twf (ILM Lefel 5)
Mae ein rhaglen Arwain Twf yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Mae'n rhoi pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau arwain i hwyluso twf busnes.
Bydd y cyfranogwyr yn dysgu deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'u heffaith ar berfformiad sefydliadol, sbarduno cynhyrchiant a pherfformiad, datblygu'r gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli eraill a gwella twf personol. Bydd y rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau'r cyfranogwyr gan ddarparu cyfeiriad cadarn a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad.
Bydd y cyfranogwyr ar ein rhaglen Arwain Twf hefyd yn cael 3 sesiwn Hyfforddi Gweithredol. Mae’r rhaglen hon wedi’i hardystio gan y CPDSO (The CPD Standards Office) ar gyfer hyd at 70 awr DPP (yn amodol ar bresenoldeb).
Gallwch ddod i wybod mwy am effaith ein rhaglen Arwain Twf mewn cyfweliad diweddar â Rheolwr Gyfarwyddwr Wolfestone Alex Parr.
Pwy sy’n gymwys?
- Arweinwyr busnes profiadol a darpar arweinwyr, rheolwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol mewn
- Cwmnïau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau trydydd sector
- Byw neu weithio yn ardaloedd Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys.