Hygyrchedd
I'n helpu ni i wneud gwefan arweinyddiaeth ION yn lle cadarnhaol i bawb, rydym wedi bod yn defnyddio Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.0. Mae'r canllawiau hyn yn egluro sut i wneud cynnwys gwe yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, ac yn hawdd i bawb ei ddefnyddio.
Mae gan y canllawiau dair lefel o hygyrchedd (A, AA ac AAA). Rydym wedi dewis Lefel AA fel y targed ar gyfer gwefan arweinyddiaeth ION.
Rydym yn sylweddoli y gellid gwella rhai meysydd a dim ond gydag offer sy'n efelychu anableddau mae’r safle wedi cael ei brofi. Mae'n bosibl y bydd profion gan ddefnyddwyr anabl yn tynnu sylw at rai materion, ond yn ôl ein dealltwriaeth ni o'r fanyleb, rydym yn cydymffurfio â lefel AA.