""Gallaf fynd â llawer o'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn ôl i'r busnes. Roedd person arall o'r un busnes ar y cwrs yma gyda mi a byddai'n wych i'r ddau ohonon ni eistedd i lawr, adlewyrchu ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu a mynd â hynny yn ôl i mewn i'r busnes"."
Aled Jones, Rheolwr Cynhyrchion, Hospital Innovations
Dysgu mwy""Un o'r pethau gorau rydw i wedi'i wneud yn fy mywyd i. O ran dod â fi allan o fy nghragen a rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i mi mewn gwirionedd. Roeddwn i'n weithiwr, ac wedyn fe ddois i'n Rheolwr, a nawr rydw i'n Rheolwr Rhanbarthol. A phwy a ŵyr ble fydda’ i yn y dyfodol.""
Ashley Miles, Rheolwr Rhanbarthol, Miles Hire
Dysgu mwy"“Heb y cwrs ION, ni fyddai Empower yn bodoli, does dim amheuaeth – ’allwch chi ddim cael gwell cymeradwyaeth na hynny!”"
Jo Juliff, Sylfaenydd, Empower Wellbeing
Dysgu mwy""Roedden ni’n ei chael yn anodd cael dros £2 filiwn o refeniw fel cwmni. Yr hyn a roddodd ION leadership i mi oedd yr hyder i edrych ar gaffaeliadau, edrych ar ddod â mwy o staff i mewn, edrych ar wahanol wasanaethau, ac yn gyffredinol, ym mlwyddyn gyntaf ION leadership, fe wnaethon ni gyrraedd £2.1 miliwn, a oedd yn gyflawniad aruthrol, a nawr, 18 mis yn ddiweddarach, mae'r cwmni'n troi mwy na £4 miliwn. ’Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb ION leadership. ’Fyddwn i ddim wedi bod yn ddigon hyderus"."
Alex-Michelle Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wolfestone Translation
Dysgu mwy""Rydw i wastad wedi argymell y cwrs yma o'r dechrau un ers y profiad dros nos. Hwn oedd y cwrs mwyaf pleserus i mi ei wneud erioed (ac rydw i wedi gwneud cryn dipyn!). Fe wnaeth fy merch a fy mhartner busnes ddilyn y cwrs, roedd gennym ni reolwr arall wnaeth ei gwblhau y llynedd ac un arall yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Rydw i'n meddwl y dylai pob person o fewn rôl arweinyddiaeth brofi'r cwrs yma. Mae'n wahanol i unrhyw un arall ac mae'r sgiliau sydd wedi’u dysgu, a’r twf personol, yn rhywbeth na ddylid ei golli. Mae’n siŵr o ysbrydoli unrhyw arweinydd, mae’n siŵr o ddod â gwên i wythnos o straen a rhai strategaethau i'ch helpu chi drwyddi. Rydw i’n credu bod hwn yn un cwrs na fedr fethu yn syml iawn"."
Dysgu mwyMae ein safle yn gofyn cwcis i weithio. Mwy o wybodaeth