Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Busnes Cynhwysion Bwyd o Gymru yn Ailddiffinio Sector Gweithgynhyrchu Bwyd y DU ar y cyd â Phrifysgol Abertawe

040616_Beacon_Foods_001.JPG

Mae Beacon Foods Cyf yn cyflenwi amrywiaeth fawr o gynhwysion arbenigol wedi'u coginio i weithgynhyrchwyr bwyd mawr, diwydiannau gwasanaethau bwyd, yn ogystal â chwmnïau annibynnol bach, a hynny ledled y DU a thramor.  Mewn ffordd anuniongyrchol, mae eu cynhyrchion yn cael eu cyflenwi i bob manwerthwr bwyd yn y wlad. Mae gan y busnes, sy'n tyfu'n gyflym, dros 250 o linellau cynnyrch byw, ac mae'n cynhyrchu 120 o gynhyrchion gwahanol bob dydd o ffatri Gradd AA BRC 36,000 troedfedd sgwâr yng nghalon Bannau Brycheiniog.   

Gall Beacon Foods gynnig amrywiaeth o opsiynau cyflenwi ar gyfer pob busnes.  Mae llawer o gynhwysion crai, yn cynnwys sbeisys, ffrwythau a llysiau yn cyrraedd Beacon Foods bob wythnos. Mae gweithrediadau effeithlon yn allweddol i ddarparu cynhyrchion o ansawdd uchel, ar amser, ac am brisiau cystadleuol. 

Ym mis Medi 2015, cofrestrodd Jas Singh a Kim Trilloe o dîm rheoli Beacon Foods ar gyfer rhaglen SIM Cymru dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac maent wedi treulio'r 10 mis diwethaf yn gweithio ar system gwelliant parhaus sy'n darparu adroddiadau perfformiad gweithgynhyrchu amser real i ddyfais ddi-wifr.

Mae'r system yn galluogi Beacon i gynyddu effeithlonrwydd trwy leihau amser segur a gwastraff, cynyddu trwybwn cymaint â phosibl, rheoli materion capasiti tymhorol a gorfodol, gwella dibynadwyedd ac ansawdd, costio swyddi'n gywir, a llywio diwylliant o welliant parhaus trwy ddarparu data gweithrediadau cywir.

Meddai Jas Singh, Pennaeth Gweithrediadau:

"Roedd y broses draddodiadol o adrodd ar weithrediadau ar bapur yn ei gwneud yn amhosibl i ni ymateb yn gyflym i aneffeithlonrwydd mewn prosesau cynhyrchu, gan y byddem yn treulio dyddiau, os nad wythnosau, yn ysgrifennu, yn dadansoddi ac yn adolygu gwybodaeth am weithlu'r ffatri. Mae'r system newydd wedi newid y ffordd yr ydym yn gweithio yn llwyr, ac mae'n anfon adroddiadau byw yn syth o lawr y ffatri i'm tabled symudol. Nid wyf yn gaeth i'r ddesg mwyach, a gallaf 'nawr dreulio mwy o amser ar lawr y ffatri yn cefnogi gweithrediadau ar lawr gwlad.”

“Roedd rhaglen SIM Cymru wedi ein haddysgu, mewn ffordd ymarferol, sut i weithredu'r newidiadau a oedd yn ofynnol yn ein busnes, er mwyn ymwreiddio'r system newydd yn llwyddiannus. Roedd y sgiliau yr oeddem wedi eu dysgu yn berthnasol i'n busnes yn syth – nid oedd unrhyw arholiadau i'w sefyll, a chafodd ei chyflwyno mewn iaith fusnes bob dydd, gydag enghreifftiau go iawn o'r diwydiant.”

Meddai Gary Walpole, Rheolwr Rhaglen SIM Cymru Prifysgol Abertawe:

"Rhoddodd rhaglen SIM Cymru wybodaeth a sgiliau i'r cyfranogwyr i'w gallu i ddatblygu a gweithredu prosiectau gwelliant parhaus amser real, ac roeddwn yn falch iawn o weld yr effaith a gafodd ar Beacon Foods.” 

Yn ystod 13 wythnos gyntaf y system newydd, gwelodd Beacon Foods gynnydd o 6% mewn effeithlonrwydd ar lawr y ffatri. Mae'r cynnydd hwn mewn effeithlonrwydd wedi arwain at gynnydd mewn capasiti.

Meddai Kim Trilloe, Pennaeth Datblygu Cynnyrch Newydd a Thechnegol:

"Y peth cyntaf y mae darpar gwsmeriaid yn ei ofyn i ni yw beth yw ein capasiti. Mae'r system newydd wedi cynyddu ein capasiti 20%, a hynny dros nos. Hyd yma eleni, rydym wedi gweld cynnydd annisgwyl o 8% - 10% mewn busnes."

"Mae'r ffordd ddarbodus hon o weithio yn aml yn cael ei hystyried yn fygythiad i lefelau staff ond, mewn gwirionedd, rydym wedi llwyddo i gynyddu ein trosiant, ac rydym yn bwriadu cyflogi rhagor o staff. Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi 130 o staff, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn hyfforddiant ar gyfer ein staff, y mae pob un ohonynt wedi'u cyflogi ar gontractau parhaol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym weithlu sy'n barod ac yn awyddus i ddysgu, ac i fod yn rhan o ddyfodol llwyddiannus gyda Beacon Foods." Os hoffech ymuno â thîm Beacon Foods, ewch i'r wefan yn www.beaconfoods.co.uk. 

Mae Beacon Foods hefyd yn gweithio gyda'r Athro Nick Rich, arbenigwr mewn Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ar brosiect ehangach i gyflwyno gweithgynhyrchu darbodus yn niwydiant Cynhwysion Bwyd y DU. 

Sylwadau