Diolch am yr atgofion. Beth am i ni greu mwy.
Ar ein diwrnod gwaith olaf ni yn 2023, roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i ddweud diolch. Fel rydych chi’n gwybod, ar ddiwedd 2023 mae pennod gyfredol rhaglen arweinyddiaeth wych ION yn croesi ei llinell derfyn olaf wrth i'n cyllid ni gan WEFO / ESF ddod i ben.
Fodd bynnag, mae pennod newydd wedi dechrau eisoes, ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd ION Leadership yn rhan yn awr o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae cymaint o sgyrsiau hynod gyffrous wedi digwydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, a chymaint o gyfleoedd wedi dod i’n rhan ni. Byddwn yn parhau i gefnogi cynnydd yr agenda arweinyddiaeth ar gyfer busnesau yng Nghymru ac i fanteisio ar ein gwaddol o gefnogi'r dalent a'r potensial anhygoel ym musnesau Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu'r cyfleoedd hyn gyda chi wrth iddyn nhw godi yn 2024.
Yn ystod y cyfnod yma o newid a chynnydd, rydyn ni’n adlewyrchu ar y ffaith na allem fod wedi cyrraedd lle'r ydyn ni heddiw heb ein cymunedau ni, ein rhwydwaith ni sy'n cynnwys cymaint o bobl ysbrydoledig a chefnogol.
Yn gyntaf, diolch enfawr i bawb sydd wedi gweithio i LEAD Wales ac ION leadership. Ein timau darparu, marchnata, ymchwil, gweithrediadau, hyfforddwyr, y tîm arweinyddiaeth, y grŵp llywio, cydweithwyr yn Abertawe a Bangor. Mae wedi bod yn ymdrech dîm fawr, a'r tîm ydi'r hyn sydd wedi gwneud y rhaglen mor arbennig. Diolch o galon.
I bawb sydd wedi siarad yn ein digwyddiadau ni, neu wedi rhannu eu straeon ysbrydoledig yn ein dosbarthiadau meistr, neu roi geirda o ran sut mae ION wedi eu galluogi i greu newid mawr ynddyn nhw eu hunain neu eu busnes. Diolch.
I'r holl bartneriaid rydyn ni wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd - o NatWest ac FSB Cymru i Chwarae Teg a Busnes Cymru. Diolch. Bu rhai enghreifftiau gwych o gydweithredu dros yr 14 mlynedd diwethaf, a gobeithio y bydd y partneriaethau hyn yn parhau.
I WEFO, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor. Diolch i chi am eich cefnogaeth ddiwyro. Ni fyddem wedi gallu cyflawni dim ohono hebddoch chi.
Ac yn olaf, ein cyn-fyfyrwyr ni - bron i 2000 ohonoch chi. Diolch i chi am yr amser a'r ymroddiad rydych chi wedi'u dangos i'n rhaglenni ni. Diolch i chi am gamu allan o'r byd sy’n gyfforddus i chi wrth i chi gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Diolch i chi am fod yn chi'ch hun ac am fod yn onest yn ystod trafodaethau grŵp. Diolch i chi am fod yn rhyfeddol.
Sylwadau