Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Sut mae ein Rheolwr Dysgu Bangor Felicity yn dilyn ei phregeth ei hun

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 15/1/2022

Mae’r Mad Hatter Studio, sy’n eiddo i Felicity Davies, Rheolwr Dysgu ar arweinyddiaeth ION, wedi adeiladu cymuned eang o ddilynwyr ers ei sefydlu bedair blynedd yn ôl.

Fliss_Studio_4_(002).jpgSefydlwyd y stiwdio paentio crochenwaith yn wreiddiol i gynnig gweithgaredd 'diwrnod glawog' ar benwythnos yn yr ardal, ond ers hynny mae wedi dyblu ei oriau agor, cynyddu ei staff ac wedi datblygu i gynnig gweithdai yn ôl thema, gweithgareddau adeiladu arth a dosbarthiadau 'Paentio i Fabanod’ poblogaidd. Heb sôn am y nosweithiau ‘Peintio a Prosecco’ pan werthir pob tocyn!

“Mae'n hyfryd i gael cydbwysedd rhwng fy ochr greadigol â fy nghefndir mewn datblygu busnes ac arwain fy nhîm a'm busnes yn ymarferol, yn enwedig trwy'r ddwy flynedd ddiwethaf. Bu’n rhaid i mi addasu’n gyflym, ac rwy’n parhau i wneud hynny, wrth i ni lywio ein ffordd drwy’r pandemig. Wedi dweud hynny, mae’r gefnogaeth rwyf wedi ei chael gan gwsmeriaid ffyddlon wedi bod yn anhygoel a 2021 oedd ein blwyddyn orau”.

“Roedd lleihau fy oriau gydag arweinyddiaeth ION er mwyn datblygu fy musnes fy hun yn risg, ond rwy’n teimlo’n gyffrous am 2022 gan ein bod yn cyflwyno gweithdai clai, yn adeiladu ar gysylltiadau â sefydliadau fel Mencap (a chreu rhai newydd), a datblygu sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar felly y gall eraill elwa o'r un profiad creadigol yr ydym yn ddigon ffodus i'w fwynhau yn ein diwrnod gwaith”.

Sylwadau