Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Astudiaeth achos cyn-fyfyriwr: Wildhorse Brewery Company

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 12/7/2022

Bragdy annibynnol yn Llandudno yw Bragdy’r Ceffyl Gwyllt.  Fe'i sefydlwyd yn 2015 gan ŵr a gwraig, Dave ac Emma Faragher. Y nod oedd bragu cwrw crefft modern a blasus i bobl y gogledd.  Bellach maent yn eu hwythfed flwyddyn fel busnes, ac mae tîm o 9 yn gyfrifol am y broses lawn o felino grawn, rhoi’r cwrw mewn casgenni a chaniau’n barod i'w werthu.  Yn ddiweddar, soniodd Dave wrthym am ei brofiad o Arweinyddiaeth ION.

Pam ddewis cofrestru ar Arweinyddiaeth ION?

wildhorse_brewery.JPGPerthynas i un o weithwyr y cwmni ddaru argymell y cwrs imi i ddechrau – dywedon nhw fod y cwrs yn ardderchog ac er mai dim ond busnes bach teuluol oeddent, cawsant fudd mawr o’r cwrs. 

Bûm yn rhedeg y Ceffyl Gwyllt am 6 blynedd, ac ni chefais i hyfforddiant ffurfiol erioed ar arweinyddiaeth/rheoli a bûm yn arwain/rheoli yn seiliedig ar y profiadau a oedd gen i o gael fy rheoli yn y cwmnïau y bûm yn gweithio iddynt. Bu hynny’n help imi hyd at ryw bwynt ond roedd rhai sefyllfaoedd yn peri trafferth imi ac roeddwn yn teimlo y byddai rhywfaint o hyfforddiant ffurfiol yn fy ngalluogi i ddod yn arweinydd gwell a mwy effeithiol.

Beth oedd y manteision i chi?

Mi ddysgais i gymaint ynglŷn ag arwain pobl yn fwy effeithiol, ac am fy null innau o arwain.

Mae’r modelau arweinyddiaeth a gyflwynwyd yn ddefnyddiol iawn, ac amlygodd y cwrs lawer o heriau arweinyddiaeth y mae pob arweinydd yn eu hwynebu. Yn nhasgau’r diwrnodau o ddysgu trwy brofiad a'r trafodaethau gyda chyfoedion ar y cwrs y cefais rhai o'r profiadau dysgu mwyaf cofiadwy hyd yn hyn.

Bellach mae fy agwedd at fy nhasgau beunyddiol yn wahanol ac rwy'n deall y tîm yn well o lawer pan fyddaf yn ceisio cyfleu’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud a pham.

Rwy’n deall cymaint mwy am fy null arwain innau, gan gynnwys fy nghryfderau a’m gwendidau fy hun. Mi wnaiff hynny helpu fy nhasgau arwain beunyddiol, ond bydd hefyd yn caniatáu imi arwain y twf a’r cynlluniau i ehangu’n well at y dyfodol.

A fyddech yn argymell y rhaglen?

Byddwn, yn sicr!  Rwyf eisoes wedi ei argymell sawl gwaith – bu’r cwrs yn brofiad gwych ac rwyf wedi dysgu cymaint mwy nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Sylwadau