Arweinwyr Newydd (6) - Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r cwrs wedi gorffen.
Crynodeb cwrs
Darganfod yr arweinydd ynoch chi
Darganfod dulliau arweinyddiaeth cyfoes
Darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl
Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
Gwella perfformiad eich busnes a hybu cynhyrchiant
Mae'r Rhaglen Arweinwyr Newydd wedi ei chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd ar gamau cynnar datblygu eu sgiliau arwain. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd eu sefydliadau.
Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â rolau lluosog o fewn eu sefydliad ar gyfnod cynnar, wrth iddyn nhw gydbwyso anghenion gweithredol a strategol o ddydd-i-ddydd y busnes. Maen nhw wedi cyrraedd cam lle maen nhw’n datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, yn dirprwyo cyfrifoldeb i dîm medrus wedi ei rymuso ochr yn ochr â dysgu sut mae arwain ac nid dim ond rheoli.
Mae'r rhaglen hon wedi ei chynllunio i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull eu hunain o ymwneud ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried rolau a thasgau’r tîm i greu fframwaith busnes cryf ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad. Mae'r rhaglen yn cyflwyno'r Cynfas Model Busnes fel fframwaith ar gyfer strategaeth - glasbrint un-dudalen i arweinwyr ddeall eu cynnig gwerth am arian a chreu gwerth am arian i'w cwsmeriaid.
Strwythur rhaglen
Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
Cynllun busnes ar dudalen
Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
Dysgu gan gyfoedion a grwpiau cynllunio gweithredu
Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein
ILM
Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i gynrychiolwyr. Unedau:
•Deall Arweinyddiaeth
•Cynllunio Newid yn y Gweithle
Mae hi'n rhaglen DPP ardystiedig ar gyfer cyfanswm o 40 Awr.
I weld prisiau ar gyfer ein cyrsiau, cliciwch yma.
Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.
DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .