Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar (10) - Ar-lein & Pen-y-Bont ar Ogor
Mae'r cwrs wedi gorffen.
Crynodeb cwrs
***Rhaglen yn Llawn***
Ar hyn o bryd mae’r rhaglen hon yn llawn yn amodol ar bob mynychwr yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais a bydd aelod o dîm Arweinyddiaeth ION yn cysylltu â chi i drafod cyfleoedd pellach.
Diolch yn fawr,
Tîm Arweinyddiaeth ION
----------------------------------------------------------------------------
Sylwer, yn ystod y pandemig Coronafeirws presennol, cyflwynir y rhaglen hon drwy ddysgu cyfunol. Cyflwynir y rhaglen yn rhithwir trwy Zoom a’r bwriad yw cyflwyno ar sail wyneb yn wyneb pan fydd y Llywodraeth yn llacio’r mesurau a’r rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ar gyfer gweithgareddau grŵp.
-----------------------------------------------------------------------------
- Darganfod dulliau arweinyddiaeth cyfoes
- Darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl
- Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
- Gwella perfformiad busnes, gyrru cynhyrchiant a chreu gwerth ar gyfer cwsmeriaid.
Mae'r rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd ar gamau cynnar datblygu eu sgiliau arwain. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd eu sefydliadau.
Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â rolau lluosog o fewn eu sefydliad ar gyfnod cynnar, wrth iddyn nhw gydbwyso anghenion gweithredol a strategol o ddydd-i-ddydd y busnes. Maen nhw wedi cyrraedd cam lle maen nhw’n datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, yn dirprwyo cyfrifoldeb i dîm medrus wedi ei rymuso ochr yn ochr â dysgu sut mae arwain ac nid dim ond rheoli.
Mae ein rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull eu hunain o ymwneud ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried rolau a thasgau’r tîm i greu fframwaith busnes cryf ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad.
Strwythur rhaglen
- Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
- Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
- Dysgu gan gyfoedion a grwpiau cynllunio gweithredu
Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.
DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .