ION leading growth (ILG5) - Heads of the Valleys Cohort
Mae'r cwrs wedi gorffen.
Crynodeb cwrs
- Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau
- Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau
- Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad
- Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol
- Datblygu persbectif mwy strategol
- Gwella twf personol
Bydd y Rhaglen hon yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau.
Bydd y rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, a’u galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad ymhellach.
Bydd y rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes". Mae'r rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei gyrru ar bob lefel o'r sefydliad.
Strwythur rhaglen
- 3 sesiwn hyfforddi unigol
- Cyfnewid gwybodaeth am arweinyddiaeth (gyda phartner o'r Cohort)
- Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
- Setiau dysgu gweithredol
- Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
- Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein
- Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso
ILM dyfarniad
Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 i
gynrychiolwyr mewn Dod yn Arweinydd Effeithiol a Chyflwyniadau Effeithiol a hyd
at 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhau
s
Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.
DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .