Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Goroesi a ffynnu mewn cyfnodau anodd

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 17/4/2020 / ION leadership news, / Blog posts

Ar ôl treulio rhai wythnosau yn ynysu a chael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson ar y cyfryngau cymdeithasol am Covid 19, mae realiti'r sefyllfa yn ein taro. Nid oes unrhyw ffordd hawdd i ddod allan o'r sefyllfa bresennol. Sut allwn ni fel unigolion wneud synnwyr o hyn ac, yn y pen draw, cael ein bywydau yn ôl i drefn, pan nad ydym yn gwybod sut beth fydd y drefn honno?

Byddwch wedi clywed y dywediad, ein bod mewn cyfnodau o argyfwng yn naill ai'n ymladd, yn dianc, yn rhewi neu'n heidio. Mae llawer o bobl ddewr wrthi'n ymladd yn erbyn y firws hwn ar hyn o bryd. Ni allwn ddianc gan fod rhaid i ni aros yn ein cartrefi ond gan ddefnyddio technoleg rydym wedi heidio'n rhithiol at ein gilydd i gefnogi ein gilydd a bod yn bositif, gobeithio, am y dyfodol. Fodd bynnag, bydd llawer wedi rhewi, a ddim yn gwybod beth sy'n digwydd o ran eu swyddi a'u busnesau neu swyddi a busnesau aelodau o'u teulu.

Mental_Toughness.JPGYn y pen draw, ein meddyliau fydd yn penderfynu sut rydym yn mynd drwy'r cyfnod hwn a thrwy chwilio ar y we gallwch weld nifer o fodelau a damcaniaethau a all eich cefnogi. Un o'r modelau yw'r un a gydnabyddir yn rhyngwladol sef Model 8 Ffactor Dygnwch Meddwl.

Diffiniwyd Dygnwch Meddwl fel “Nodwedd personoliaeth sy'n penderfynu, i ryw raddau, sut mae unigolion yn ymateb pan fyddant yn wynebu straen, pwysau, cyfle a her .. waeth beth yw'r sefyllfa gyffredinol.”

Mae hyn yn awgrymu bod gan rai gallu naturiol i ymdopi â beth bynnag mae bywyd yn ei daflu atynt ond, i'r gweddill ohonom mae'n rhaid i ni weithio arno ... a chydag ychydig o ymdrech, gallwn wneud hynny.

Edrychwch ar y diagram a'r crynodeb byr o'r ffactorau, yna rhowch sgôr i chi eich hun ar raddfa 1-10 (1 = isel, 10 = uchel) fel y cewch syniad o'ch Dygnwch Meddwl personol. Ar hyn o bryd mae sefyllfa pawb yn wahanol felly mae'r eglurhad am bob un yn gyffredinol. Ystyriwch sut maent yn berthnasol i chi.

  1. Mae rheoli yn disgrifio'r gallu i deimlo bod gennych reolaeth ar eich bywyd a'ch emosiynau eich hun ond gan gydnabod na allwch reoli popeth. Rydych yn tueddu i allu rheoli llwyth gwaith trwm a pheidio â chynhyrfu'n hawdd. Gallwch aros yn dawel a pheidio â chynhyrfu mewn argyfwng.
  2. Mae ymrwymiad yn golygu gweithio tuag at nodau a thargedau a pheidio â rhoi'r gorau iddi yn hawdd. Byddwch yn tueddu i hoffi gosod nodau a thargedau a byddwch yn cadw at dasgau hyd yn oed pan fo pethau'n anodd.
  3. Mae her yn ymwneud ag ystyried anawsterau fel cyfleoedd yn hytrach na bygythiadau, mentro, dysgu pethau newydd a dysgu o gamgymeriadau. Byddwch yn ymestyn eich hun ac yn mentro tu hwnt i'r hyn sy'n gyfarwydd i chi. Ni fydd camgymeriadau yn eich atal rhag rhoi cynnig arall arni neu roi cynnig ar rywbeth newydd.
  4. Mae bod yn hyderus am ein galluoedd a sut rydym yn cyfathrebu gydag eraill yn ein galluogi i ddefnyddio ein sgiliau, gofyn am gefnogaeth a rhoi cefnogaeth a dal ein tir mewn sgyrsiau anodd. Byddwch yn gwybod beth allwch ei wneud yn dda ac yn defnyddio eich sgiliau'n dda ac yn gallu eu trosglwyddo i swyddogaethau neu dasgau eraill. Gallwch ymdopi'n dda gyda sgyrsiau anodd.

Os rhoddoch sgôr uchel i chi eich hun gyda'r cysyniadau hyn mae'n debygol eich bod yn gallu rheoli straen a defnyddio'ch sgiliau a'ch rhwydweithiau i fynd yn ôl i'r drefn arferol neu, os oes angen, dechrau o'r newydd. Os oedd eich sgôr ar ben isaf yraddfa, yna bydd rhai strategaethau rheoli straen, gosod nodau a datrys problemau yn eich cefnogi. Mae llawer wedi deillio o faes Chwaraeon a Seicoleg Glinigol felly mae ganddynt sylfaen dystiolaeth dda.

Gosod nodau ystyrlon - Rydych wedi clywed hyn o'r blaen ond mae'n gweithio! Cymerwch un cam ar y tro a rhannwch nodau a heriau mawr yn ddarnau y gellir eu rheoli. Mae'n helpu i gael llwybr clir at y canlyniad a ddymunir, ond byddwch yn barod i'w hadolygu pryd bynnag ac os bydd sefyllfaoedd yn newid.

Dysgwch i fod yn optimistaidd - Rydym yn tueddu i fod yn negyddol, mae'n debyg ei fod wedi cadw ein rhywogaeth yn fyw trwy gadw llygad am fygythiadau roeddem yn meddwl ein bod yn gwybod amdanynt, ond fel rydym wedi ei weld, y bygythiadau nad oeddem yn eu disgwyl sy'n ein llorio. Defnyddiwch eich egni gwybyddol yn ddoeth a chwiliwch am atebion yn y lleoedd na fyddech yn disgwyl dod o hyd iddynt, canmolwch eich hun ac eraill, mae'n cynhyrchu hormonau da! Gwnewch restr o'r holl bethau rydych yn gallu eu gwneud yn dda ac atgoffwch eich hun bod gennych rinweddau a sgiliau gwych a rhai nad ydych wedi eu dysgu hyd yma! Mae agor ein meddyliau i bosibiliadau newydd yn ein galluogi i chwilio amdanynt yn hytrach na chanolbwyntio ar ofn.

Dychmygu - Gallwn gael ymateb corfforol i'r delweddau meddyliol a gynhyrchwn. Meddyliwch am y pryder roeddech yn ei deimlo wrth ddychmygu cyfarfod neu gyflwyniad nad oeddech yn edrych ymlaen ato. Gwnewch ddefnydd da o'r gallu meddyliol hwn trwy fynd ar wyliau yn eich meddwl (ni allwn fynd ar wyliau go iawn ar hyn o bryd) mae'n ein helpu i ymlacio. Meddyliwch sut rydych yn mynd i symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol yn hytrach na chanolbwyntio ar y negyddol.

Rheoli eich pryder - Mae dulliau ymlacio fel ioga, Pilates, ymwybyddiaeth ofalgar, eich ymarfer corff bob dydd i gyd yn helpu i leihau gorbryder. Mae hefyd yn ddefnyddiol i ymchwilio i'r triongl iechyd. Mae'n cwmpasu agweddau cymdeithasol, seicolegol a chorfforol iechyd, a rhoddir prawf ar bob un ohonynt ar hyn o bryd ond mae hefyd yn cynnwys cwsg, diet ac ymarfer corff. Mae angen i ni sicrhau ein bod ynrhoi sylw i bob un o'r tri! Mae lleihau straen trwy ymwybyddiaeth ofalgar hefyd yn ddull defnyddiol.

Lleihau pethau sy'n tynnu eich sylw - Mae'n debyg mai hwn yw'r un o'r rhai pwysicaf ar hyn o bryd, i'r rhai sy'n byw gartref gyda phlant ac aelodau eraill o'r teulu wrth geisio parhau i weithio! Gobeithio eich bod wedi gwneud y peth amlwg fel symud i ystafell arall a chloi'r drws ond weithiau ni allwn ddianc rhag y sŵn a'r pethau sy'n tynnu sylw. Trwy ymarfer a defnyddio'r strategaethau rheoli gorbryder a meddwl yn gadarnhaol er mwyn peidio â chynhyrfu, gallwch adael i'r synau doddi i'r cefndir fel chwaraewyr proffesiynol (ac eithrio John McEnroe) sydd ddim yn gweiddi ar y dorf am wneud sŵn. Maent wedi ymarfer canolbwyntio ar y dasg ac nid ar y cefndir. Rhowch gynnig arni!

Adnoddau defnyddiol

Sylwadau