Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Un bennod yn dod i ben, ac un arall yn dechrau, ar gyfer ION leadership

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 20/12/2023

Wrth i un bennod ddod i ben, ac un arall yn dechrau, ar gyfer ION leadership, mae Ceri Jones, y Cyfarwyddwr Ymchwil, Ymgysylltu a Gwasanaethau Arloesi (REIS), yn rhannu ei feddyliau am y rhaglen y gwnaeth ei chefnogi wrth iddi drosglwyddo i Gymru o ogledd orllewin Lloegr.

Ceri.JPGYn ystod yr 14 mlynedd diwethaf mae'r rhaglen wedi cefnogi bron i 2,000 o arweinwyr ledled Cymru, gyda rhaglenni'n cael eu cyflwyno gan Brifysgolion Abertawe a Bangor. Mae pob un o'r arweinwyr hynny yn stori am dwf personol, proffesiynol a busnes. Mae'r rhaglen wedi cael effaith enfawr ar yr unigolion a gymerodd ran, eu busnesau, ac economi Cymru.

Roeddwn i’n hynod falch o fod yn rhan o'r tîm a fewnforiodd y rhaglen LEAD Wales i Gymru. Roedd yn dyst i lwyddiant LEAD Wales bod y cyllid gan WEFO wedi ei ymestyn yn 2015, a newidiodd LEAD Wales i ddod yn ION leadership. Yn ystod y rhaglen, rydyn ni wedi gweithredu bron i 80 o grwpiau, a chynhaliwyd rhai ohonyn nhw yn rhithwir oherwydd pandemig Covid-19. Er ein bod ni wedi cyflwyno 2 raglen arweinyddiaeth yn bennaf - Arweinwyr Newydd ac Arwain Twf  - rydyn ni wedi bod yn hynod arloesol gyda sut rydyn ni wedi teilwra'r rhaglenni, gan gynnal rhaglenni ar gyfer gwahanol grwpiau demograffig, sectorau penodol, a sawl rhaglen fewnol ar gyfer busnesau, gan gynnwys Tokio Marine a Siemens Healthineers.

Effaith sy’n hollbwysig 

Rydyn ni wedi dweud bob amser nad ydyn ni eisiau i'n rhaglenni arweinyddiaeth ni fod yn rhaglen arall lle mae'r ffolder yn cael ei rhoi ar y silff, a phawb yn parhau i wneud pethau fel maen nhw wedi’u gwneud erioed. Mae ein rhaglenni ni wedi canolbwyntio bob amser ar ddod o hyd i atebion real ar gyfer y materion real y mae arweinwyr yn eu hwynebu bob dydd. Rydyn ni eisiau i'n cynrychiolwyr ni weithredu newid yn eu busnes ar unwaith  - dyna un o'r rhesymau pam rydyn ni'n cynnal ein rhaglenni 1 diwrnod y mis. Mae hyn yn rhoi amser i'r cynrychiolwyr adlewyrchu ar eu dysgu a gweithredu newid.

Nododd ein hadroddiad gwerthuso ni a oedd yn rhoi sylw i 2019 i 2022 y canlynol:

  • Credai 94% o’r cynrychiolwyr bod mynychu'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hunanhyder.
  • Credai 98% o’r cynrychiolwyr bod mynychu'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol arnynt yn mabwysiadu arferion rheoli ac arweinyddiaeth newydd.
  • Mae 96% o’r cynrychiolwyr yn debygol o gymryd rhan mewn dysgu pellach.
  • Dywedodd 100% o’r cynrychiolwyr a gwblhaodd y rhaglen bod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i feddwl yn strategol a chyfathrebu'n effeithiol.

Mae’r uchod i gyd yn effaith arbennig iawn! 

Mae'r dyfodol yn ddisglair

Rydw i’n falch iawn y bydd gwaddol LEAD Wales ac ION leadership yn parhau, wrth i’r rhaglen symud i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae'r rhaglen wedi creu cymaint o berthnasoedd gwych dros yr 14 mlynedd diwethaf, ac wedi datblygu cymaint o arweinwyr rhyfeddol, ac rydw i wrth fy modd y bydd hud y rhaglen yn parhau. Bydd yr hyn y gall y tîm yn ION ei gynnig wrth symud ymlaen yn wahanol iawn, felly cadwch lygad ar eu gwefan a’u cyfryngau cymdeithasol

Diolch

Byddai'n esgeulus i mi beidio â dod â'r blog yma i ben gyda gair o ddiolch. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o siwrnai LEAD / ION. Mae gormod o bobl i'w rhestru, ond rydych chi i gyd yn gwybod pwy ydych chi. Diolch i bawb sydd wedi gweithio ar y rhaglen, aelodau ein grŵp llywio ni, ein siaradwyr, a'n cydweithwyr ni ym Mangor. Diolch i WEFO am eu cefnogaeth barhaus dros yr 14 mlynedd diwethaf, ac i Brifysgolion Abertawe a Bangor.

Mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd pan fydd ein cynrychiolwyr ni’n dod at ei gilydd. Rydych chi i gyd yn cyfrannu tuag at yr hud. Rydych chi i gyd yn arweinwyr a fydd yn newid Cymru. Diolch i chi am fod yn rhan o'n rhaglen arweinyddiaeth ni. Diolch i chi am fod yn arweinwyr rhyfeddol.

Sylwadau