Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Cyfarwyddwr Prifysgol yn canmol rhaglen arweinyddiaeth fel ‘gem yn y goron’

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 12/6/2023

Wrth i ni edrych ymlaen at y digwyddiad ‘Edrych yn Ôl, Edrych Ymlaen’ ddiwedd mis Mehefin, mae Ceri Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) yn rhannu ei farn am y rhaglen a gefnogodd wrth ei throsglwyddo i Gymru o Ogledd Orllewin Lloegr. Rhaglen sydd wedi mynd ymlaen i gefnogi bron i 2,000 o arweinwyr ledled Cymru.

Ceri.JPGDydw i ddim yn gallu credu ei bod yn 14 mlynedd ers i ni gyflwyno LEAD i Gymru. Am effaith mae’r rhaglen wedi’i chael ar yr unigolion hynny sydd wedi cymryd rhan, eu busnesau, ac economi Cymru. Mae’r rhaglen wir yn ‘orau yn ei dosbarth’. Wrth i ni agosáu at ein digwyddiad dathlu, rydw i wedi rhoi amser i feddwl sut rydyn ni wedi cyrraedd lle rydyn ni heddiw.

Ansawdd a Nifer

Fwy nag 14 mlynedd yn ôl roeddwn i’n falch iawn o fod yn rhan o’r fenter i fewnforio’r rhaglen LEAD o Ogledd Orllewin Lloegr i Gymru. Fe wnaethon ni ddarganfod rhaglen arweinyddiaeth hynod lwyddiannus, LEAD, oedd wedi cael effaith sylweddol ar eu heconomi ranbarthol. Rydw i’n hynod falch o’r ffaith ein bod ni nid yn unig wedi mewnforio’r rhaglen i Gymru, ond ein bod ni hefyd wedi’i datblygu. Gyda chefnogaeth a chyllid gan WEFO, rydyn ni wedi datblygu’r rhaglen, gan ei haddasu ar gyfer y farchnad yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn hynod arloesol o ran sut rydyn ni wedi teilwra’r rhaglen, gan dreialu rhaglenni ar gyfer gwahanol ddemograffeg ac ar gyfer grwpiau sy’n benodol i sectorau fel gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu, TGCh, ynni a dwy raglen i ferched yn unig.

Mae'r ansawdd wedi bod yno erioed ond yr hyn rydyn ni wedi'i ychwanegu hefyd ydi maint. Roedd y rhaglen yng Ngogledd Orllewin Lloegr yn hynod ddylanwadol ond ni chafodd ei chyflwyno o reidrwydd i raddfa debyg i’n cyrhaeddiad ni ledled Cymru. Mae’r ffordd rydyn ni wedi cyflwyno’r rhaglen ledled Cymru wedi bod yn anhygoel. Cyflwynwyd bron i 80 o grwpiau rhwng Abertawe a Bangor, i bron i 2,000 o gynrychiolwyr mewn mwy na 1,000 o fusnesau ledled Cymru. Mae pob un o'r cynrychiolwyr hynny yn stori - stori am dwf personol, proffesiynol a busnes. Dyna sy’n nodweddu’r 14 mlynedd diwethaf i mi – yr effaith rydyn ni wedi’i chael ar unigolion, busnesau, ac economi Cymru.

Gem yn y goron o ran ymgysylltu â busnes

Un o elfennau allweddol strategaeth ymchwil ac arloesi’r Brifysgol yw ymgysylltu â diwydiant. Rydw i bob amser wedi gweld LEAD/ION fel ein gem ni yn y goron o ran ein hymgysylltu ag entrepreneuriaid, microfusnesau, a busnesau bach a chanolig, ac, yn fwy diweddar, cwmnïau mwy. Mae’r rhaglen wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cyrhaeddiad strategol ni o ran ymchwil ac arloesi a’n gwaith gyda diwydiant, ac mae’r gwobrau y mae’r rhaglen wedi’u hennill dros y blynyddoedd yn cadarnhau’r ffaith mai’r rhaglen yw’r orau yn ei dosbarth.

Pobl sy’n allweddolLG32.jpg

Rhaid i mi orffen y blog yma drwy ddweud diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o siwrnai LEAD/ION. Mae’r cast wedi newid yn gyson, ond mae'r hud yn parhau. Diolch yn fawr iawn i'n hwyluswyr a’n harbenigwyr ni sydd wedi darparu rhaglenni gwerth uchel ers bron i 14 mlynedd. I bawb sydd wedi gweithio ar y rhaglen – marchnata, ymchwil, gweithrediadau, ein timau arwain, a Grŵp Llywio ION – mae wir wedi bod yn ymdrech tîm. Fe hoffwn i feddwl fy mod i wedi bod yn ‘gyson’ yn ystod yr 14 mlynedd diwethaf, ond y tîm cyfan sydd wedi gwneud y rhaglen mor arbennig.

Ac yn olaf, diolch i'n cyn-fyfyrwyr ni. Diolch i chi am fuddsoddi eich amser, angerdd ac ymroddiad yn ein rhaglenni ni. Mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd pan ddaw ein cynrychiolwyr ni at ei gilydd. Rydych chi i gyd yn cyfrannu at yr hud. Rydych chi i gyd yn arweinwyr a fydd yn newid Cymru. Diolch i chi am fod yn arweinwyr eithriadol.

Sylwadau