Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

All datblygu arweinyddiaeth helpu’ch busnes i dyfu mewn gwirionedd?

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 13/5/2016 / ION leadership news, / Blog posts

Dywed Nigel Whitehead, Prif Weithredwr BAE Systems “... Mae’n rhaid i sgiliau arwain fod wrth galon y gwaith o wella galluoedd cadwyni cyflenwi. Dyma’r sgiliau sy’n cefnogi pob agwedd arall ar sefydliad i weithio ar eu gorau. Mae cwmnïau sy’n cael eu rheoli’n dda yn tyfu’n gynt, yn gwneud mwy o elw ac yn dal gafael ar eu staff gorau.”

Mae pob busnes yn wahanol ond mae agweddau cyffredin sy’n cyfrannu at dwf.  Mae gan fusnesau sy’n tyfu weledigaeth glir y mae’r gweithwyr yn credu ynddi.

Mae busnesau sy’n tyfu yn addasu’n gyson i'r newid yn yr amgylchiadau sy’n dod yn sgil twf.

Mae busnesau sy’n tyfu yn deall beth sydd ei eisiau ar gwsmeriaid a’r hyn maen nhw’n gallu ei ddarparu.  Maen nhw’n creu enw da iddyn nhw eu hunain oherwydd bod eu cynnyrch/gwasanaeth yn gwbl addas i’r diben.

Gall busnesau sy’n tyfu fethu – e.e. gall diffyg arian lorio busnes oherwydd gall llyfrau archeb llawn achosi problemau o ran llif arian.  Mae cynllun gan fusnesau sy’n tyfu ac yn goroesi, ac maent yn addasu’r cynllun wrth i amser fynd yn ei flaen.

Mae busnes sy’n tyfu’n llwyddiannus yn adnabod ei farchnadoedd, yn defnyddio ei adnoddau’n ddeallus ac yn trochi ei bobl mewn diwylliant sy’n cefnogi ac yn ysgogi twf.

Nid cyd-ddigwyddiad mo hyn.  Mae’n digwydd oherwydd bod yr arweinwyr yn creu’r amodau cywir er mwyn tyfu.  Gyda gweledigaeth glir, cynllun ac anogaeth i newid pethau er gwell, bydd gweithwyr yn dod i’r gwaith yn chwilio am gyfleoedd i dyfu’r busnes.

Mae modd creu arweinwyr gyda’r hyfforddiant cywir.  Mae ein tîm ni wedi gweithio gyda 900 o arweinwyr busnes ers 2010.  Mae ein hymchwil yn dangos bod yr arweinwyr hyn yn tyfu eu busnesau 26% ar gyfartaledd.

Ond peidiwch â derbyn ein gair ni – dewch i gwrdd â rhai o'r arweinwyr llwyddiannus hyn drwy archebu eich hun i mewn i un o'n digwyddiadau nesaf .

Darganfyddwch fwy drwy ein ffonio ar 01792 606738 neu anfonwch e-bost atom ar info@ionleadership.co.uk.

Sylwadau