Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Mor agos at Baradwys ag y gallwch chi fod!

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 11/7/2022

Pan nad wyf yn cyflwyno sesiynau arweinyddiaeth a hyfforddiant ar raglenni Arweinyddiaeth ION, gallwch ddod o hyd i mi gyda fy nwster plu yn rhedeg fy musnes fy hun, yn paratoi fy nhŷ gwyliau, Ysgubor Carrog, yn barod ar gyfer ein gwesteion nesaf.

Hen ysgubor hardd sydd wedi ei haddasu yw Ysgubor Carrog yn Llangristiolus ar Ynys Môn. Mae wedi’i lleoli yng nghanol 25 erw o gefn gwlad tawel Môn ger Paradwys. Mae’n sicr yn baradwys gyda chefn gwlad bryniog a golygfeydd o’r Wyddfa. Mae’n gwesteion bob amser yn syrthio mewn cariad ag Ysgubor Carrog, ac yn dychwelyd dro ar ôl tro. Mae lle i 6 gysgu yn Ysgubor Carrog,  ac mae’r gwesteion yn mwynhau llonyddwch y lleoliad, cael bwydo ein hŵyn, gwylio adar a gwiwerod cochion, teithiau cerdded ar garreg y drws, adeiladu cuddfannau a chael lle y tu mewn a'r tu allan i ymlacio a mwynhau eu gwyliau. Gyda mynediad hawdd i’r traethau, mae’n lleoliad gwych i grwydro’r ynys gyfan.  Gan fod Ynys Môn yn un o’r ychydig fannau yn y Deyrnas Unedig sydd â statws awyr dywyll, mae Ysgubor Carrog yn lleoliad perffaith i eistedd y tu allan a syllu ar y sêr.

Katy_1.jpgDoedd fy ngŵr a minnau ddim wir yn bwriadu mynd i mewn i fusnes llety gwyliau gan ein bod ni’n caru’r unigedd a’r lleoliad yr ydym yn byw ynddo. Mi wnaed y penderfyniad gan fod yr ysgubor yn adfeilio, felly roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth i gadw'r adeilad. Wrth adnewyddu'r ysgubor, fe wnaethom ei wneud yn lle y byddem ni ein hunain wrth ein boddau’n aros ynddo ac rydym wedi parhau â'r athroniaeth honno i sicrhau bod gan ein gwesteion bopeth sydd ei angen arnynt. Mae’n sicr yn drawiadol, gyda’i nenfydau uchel a’i gynllun agored, ac rydym wedi cadw cymaint â phosibl o nodweddion yr ysgubor wreiddiol.

Mae rhedeg llety gwyliau ar Ynys Môn wedi gwneud i mi werthfawrogi pwysigrwydd twristiaeth i’r economi leol a’r angen i gefnogi a sicrhau twf sector twristiaeth gynaliadwy o yng Ngogledd Cymru i sicrhau dyfodol llewyrchus i bawb. Rwy’n frwd dros gefnogi cymaint o fusnesau lleol â phosibl, o ddarparu Halen Môn a theisennau cri i’r gwesteion, i gefnogi masnachwyr, bwytai, siopau, cyflenwyr gweithgareddau ac atyniadau lleol. Fe ddewison ni’r cwmni bythynnod gwyliau lleol Boltholes and Hideaways ym Miwmares i hysbysebu Sgubor Carrog. Gan olygu fod modd i ni gefnogi swyddi lleol a darparu gwybodaeth leol i'n gwesteion. Rydym yn teimlo’n gryf fod angen i ni fod yn llysgenhadon dros Fôn a sicrhau bod ein gwesteion yn cael amser anhygoel tra bônt yn aros ar yr ynys gan brofi’r gorau sydd gan Ynys Môn a Gogledd Cymru i’w cynnig, gan werthfawrogi’r golygfeydd hardd a’r diwylliant a’r hanes unigryw.

Yn amlwg, mae'n rhaid i ni roi cynnig ar bopeth cyn i ni ei argymell i'n gwesteion!! Rydym o ddifri ynghylch gwneud ymchwil marchnad, ac yn ymweld â lleoedd a gweithgareddau newydd ar yr ynys o hyd. Mae cymaint i’w weld a’i wneud ar Ynys Môn ynghyd â bwytai gwych a chynnyrch lleol. Mae gweld yr ynys o safbwynt twristiaid wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i mi o’r hyn sydd ar garreg ein drws ac wedi fy ngalluogi i ddechrau darganfod ac ailddarganfod lleoedd a phrofiadau o’n cwmpas gan gynnwys padlfyrddio, nofio gwyllt, cerdded a beicio. Mae gen i hefyd fwy o ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu busnesau lleol mewn perthynas â thwristiaeth a’r rôl y mae twristiaeth yn ei chwarae ar bob lefel o fewn yr economi a’n cymunedau lleol. Bellach mae gen i well dealltwriaeth a mwy o werthfawrogiad o’r heriau y mae arweinwyr busnes lleol yn eu hwynebu wrth i mi weithio gyda nhw ar raglenni Arweinyddiaeth ION.

Y cwestiwn sydd wastad yn cael ei ofyn i mi gan fy mod yn byw mor agos at baradwys yw ble ydw i'n mynd ar fy ngwyliau? A’r ateb yw ein bod yn aml yn mynd ar wyliau’n lleol iawn, weithiau ddim mwy na 5 milltir i lawr y lôn! Pam mynd i unrhyw le arall pan fo paradwys mor agos.

Sylwadau