Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Astudiaeth Achos Cyn-Fyfyriwr: Ropeworks Active

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 15/2/2023

Cawsom y pleser yn ddiweddar o gyfweld Alice Reynolds, Rheolwraig Ropeworks Active, canolfan gweithgareddau awyr agored a chwrs rhaffau uchel ym mhentref prydferth Llanberis.”

Bu’r awyr agored yn atyniad imi ers pan oeddwn yn blentyn bach. Cefais y fraint fawr o gael fy magu yng nghefn gwlad de orllewin Cymru, ar dyddyn. Rwyf wedi bod yn gweithio yn y diwydiant awyr agored fel hyfforddwr am y 10 mlynedd diwethaf. Treulio’r hafau mewn harnais, yn hongian o raffau, mewn ychydig o wahanol ganolfannau awyr agored, yn ennill cymwysterau, ac ychydig o aeafau yn sgwba-blymio, dramor ac yn y DU, yn hyfforddi’n raddol i fod yn Hyfforddwr Plymio Sgwba PADI.

Mae Eryri wedi bod yn gartref i mi am y blynyddoedd diwethaf ac rwyf wrth fy modd yn byw yn y mynyddoedd ac yn archwilio ardaloedd newydd gyda fy naeargi swydd Stafford o'r enw Rocky, a gês i o ganolfan achub cŵn. 

Beth mae'r cwmni'n ei wneud a beth yw eich swydd?

Alice_Reynolds.jpegMae Ropeworks Active yn gwmni teuluol bach. Fe’i sefydlwyd yn 2016 a dechreuais weithio’n llawn amser yn 2019 ar ôl gweithio’n llawrydd y flwyddyn flaenorol.

Mae fy swydd yn cael ei rhannu rhwng rhedeg canolfan weithgareddau brysur o ddydd i ddydd, datblygu ffrydiau busnes newydd a diogelu cwmni bach lleol at y dyfodol. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cynllunio a chyflwyno hyfforddiant a recriwtio staff. Does dim ofn gwaith caib a rhaw arna i. Petaech chi’n galw heibio heibio, efallai y gwelech chi fi hanner ffordd i fyny polyn yn gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw. Rwy'n mwynhau hyfforddi sesiynau hefyd pan fo gen i’r amser.

Mae Ropeworks ar agor drwy’r flwyddyn ar gyfer ein cyrsiau rhaffau a misoedd yr haf, o Ebrill tan fis Medi ar gyfer ein hanturiaethau oddi ar y safle.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw yn Ropeworks - Cwrs Rhaffau Uchel sy'n cynnwys 3 lefel gyffrous o rwystrau, y wibfa (plymio neidio/rhydd) a'r siglen enfawr. Mae gennym ni gwrs antur rhaffau isel ar gyfer aelodau iau'r teulu. Mae yna weithgareddau rhaff ychwanegol sy'n berffaith ar gyfer grwpiau: Tŵr Cratiau, Naid Ffydd, Wal Ddringo, Abseilio ac ‘All Aboard’.

Yn ystod y misoedd cynhesach rydym yn cynnal gweithgaredd adeiladu rafftiau ar Lyn Padarn ar garreg ein drws.

Rydym yn cynnal gweithgareddau antur oddi ar y safle mewn amrywiaeth o leoliadau hardd yng ngogledd Cymru: Ceunenta, Dringo Creigiau ac Antur Danddaearol - Archwiliwch hen fwyngloddiau llechi - mentrwch i’r dudew a dilynwch hen reilffordd trwy dwnnel yn ddwfn o dan y ddaear, ewch ar daith fer mewn cwch, ar hyd tramwyfeydd, dringwch raeadr, ewch drwy byllau dwfn a cheudyllau uchel, gweld sut offer oedd gan weithwyr o’r gorffennol, a dysgu am hanes tirwedd y fro.

Mae Ropeworks yn teilwra sesiynau pwrpasol i weddu i anghenion y grwpiau. Mae’r rhain yn gymorth i adeiladu hunan-barch a hyder, ac yn herio eraill i herio eu hunain, gan gloriannu’r peryglon ac ymddiried yn eu hunain yn yr uchelfannau.

Rydym yn darparu ar gyfer ystod o wahanol grwpiau o ysgolion i brifysgolion, cadetiaid a sgowtiaid, partïon dynion a merched, gweithgareddau adeiladu tîm corfforaethol, partïon pen-blwydd, ynghyd â sesiynau i deuluoedd ac unigolion.

Beth wnaeth eich denu at Raglen Arweinyddiaeth ION a pham oedd arnoch chi eisiau cymryd rhan yn y rhaglen?

Cefais fy nenu gan raglen arweinyddiaeth ION oherwydd, er y bûm i mewn sefyllfa o awdurdod ers dwy flynedd, nid wyf erioed wedi gwneud unrhyw hyfforddiant yn ymwneud ag arweinyddiaeth. Ymunais â'r cwrs, oherwydd roedd arna i eisiau magu hyder, ennill sgiliau newydd er mwyn arwain fy nhîm yn well, dysgu amdanaf fy hun a chymharu’r dull yn Ropeworks â beth mae cwmnïau lleol eraill o faint tebyg yn ei wneud.

Mwynheais y rhaglen yn fawr. Yr hwyluswyr a’r tîm yn Ysgol Busnes Bangor ddyluniodd y cwrs i mi. Maen nhw’n yn bobl hyfryd, yn wybodus iawn, ac yn hawdd sgwrsio â nhw a dysgu ganddyn nhw, ac maen nhw ar gael bob amser hefyd os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Fe wnaethon nhw gynllunio heriau/tasgau i ni gymryd rhan ynddyn nhw fel grŵp mawr a grwpiau llai, ynghyd â’r modiwlau. Rydw i yn bersonol yn mwynhau posau felly roedden nhw'n bendant at fy nant i. Gwnaeth y tasgau i ni feddwl am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn amsugno gwybodaeth ac yn dysgu, a sut mae'n rhaid i chi addasu a newid eich arddull arwain yn dibynnu ar aelodau eich tîm.

Roedd yn braf rhannu syniadau a phroblemau yn ein setiau dysgu gweithredol a chredwch neu beidio fe wnes i hyd yn oed fwynhau ysgrifennu'r aseiniadau.

Sut mae'r rhaglenni wedi'ch helpu chi'n bersonol a sut maen nhw wedi gwella pethau yn eich swydd ac yn y busnes?

Rwyf wedi dysgu ei bod hi’n iawn bod mewn swydd reoli a pheidio â bod â’r atebion i gyd. Mae'r berthynas sydd gennyf gyda'n cleientiaid a'n staff yn bwysicach i mi. Mae cymaint i'w ddysgu a'i ddatblygu ac mae hyn yn cymryd amser. Rwyf wedi magu mwy o hyder wrth gwrdd â phobl newydd, arweinwyr a pherchnogion busnes sydd yn yr un sefyllfaoedd neu sefyllfaoedd tebyg â mi, ac sydd efallai yn ymdrin â’r un problemau. Rwy'n mwynhau trafod gwahanol agweddau o'r busnes, rhannu syniadau a dysgu gan eraill.

Rwy'n credu y bydd fy ymwneud â'r Cwrs Rheoli Cymorth i Dyfu yn newid y ffordd yr ydym ni’n rhedeg Ropeworks. Rydym ni eisoes wedi dechrau'r broses honno ond mae cymaint mwy i'w wneud. Rwy'n teimlo y bydd cael mentor yn help mawr i mi wneud gwahaniaeth, i mi ac i'r cwmni.

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am y rhaglen?

Cael cyfarfod â phobl newydd, rhannu syniadau, a gwrando ar eu straeon. Mae’r hwyluswyr a’r staff yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor yn anhygoel. Rydw i’n mwynhau dysgu ganddyn nhw ac maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n frwdfrydig ar ôl pob sesiwn.

A fyddech yn argymell y rhaglen i eraill?

Byddwn. Byddwn yn bendant yn argymell y rhaglenni i berchnogion busnes gan fy mod i wedi dysgu cymaint, ac yn parhau i wneud hynny. Darganfod fy hun fel arweinydd, dysgu am yr holl wahanol fathau o arweinyddiaeth a sut i'w cymhwyso.

Fe wnaeth y Cwrs Rheoli Helpu i Dyfu agor fy llygaid i amrywiaeth o wahanol feysydd mewn ffyrdd o ddatblygu busnes nad oeddwn i erioed wedi eu hystyried o’r blaen nac efallai wedi sylweddoli eu pwysigrwydd.

Os ydych chi’n bwriadu gwella eich tîm fel arweinwyr neu ddysgu mwy am reoli’ch busnes a datblygu twf, yna byddwn yn argymell yn fawr eich bod yn ystyried y cwrs a gynhelir yn Ysgol Busnes Bangor

Sylwadau