DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .
DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .
ION leadership 15h
Why more people are working from home on Fridays. bbc.co.uk/news/business-…
""Rydw i wastad wedi argymell y cwrs yma o'r dechrau un ers y profiad dros nos. Hwn oedd y cwrs mwyaf pleserus i mi ei wneud erioed (ac rydw i wedi gwneud cryn dipyn!). Fe wnaeth fy merch a fy mhartner busnes ddilyn y cwrs, roedd gennym ni reolwr arall wnaeth ei gwblhau y llynedd ac un arall yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Rydw i'n meddwl y dylai pob person o fewn rôl arweinyddiaeth brofi'r cwrs yma. Mae'n wahanol i unrhyw un arall ac mae'r sgiliau sydd wedi’u dysgu, a’r twf personol, yn rhywbeth na ddylid ei golli. Mae’n siŵr o ysbrydoli unrhyw arweinydd, mae’n siŵr o ddod â gwên i wythnos o straen a rhai strategaethau i'ch helpu chi drwyddi. Rydw i’n credu bod hwn yn un cwrs na fedr fethu yn syml iawn"."
Dysgu mwy"“Heb y cwrs ION, ni fyddai Empower yn bodoli, does dim amheuaeth – ’allwch chi ddim cael gwell cymeradwyaeth na hynny!”"
Jo Juliff, Sylfaenydd, Empower Wellbeing
Dysgu mwy""Mae fy nyhead a fy ngallu i i ddysgu yn tyfu gyda phob sesiwn. Mae fy meddwl i’n cael ei ymestyn, ac rydw i'n datblygu o ganlyniad i'r cynnwys a'r profiad sy’n cael ei rannu gydag eraill.""
Dennis O’Connor, Rheolwr Partneriaethau a Masnachol, Croeso Sir Benfro
Dysgu mwy""Roedden ni’n ei chael yn anodd cael dros £2 filiwn o refeniw fel cwmni. Yr hyn a roddodd ION leadership i mi oedd yr hyder i edrych ar gaffaeliadau, edrych ar ddod â mwy o staff i mewn, edrych ar wahanol wasanaethau, ac yn gyffredinol, ym mlwyddyn gyntaf ION leadership, fe wnaethon ni gyrraedd £2.1 miliwn, a oedd yn gyflawniad aruthrol, a nawr, 18 mis yn ddiweddarach, mae'r cwmni'n troi mwy na £4 miliwn. ’Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb ION leadership. ’Fyddwn i ddim wedi bod yn ddigon hyderus"."
Alex-Michelle Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wolfestone Translation
Dysgu mwyMae ein safle yn gofyn cwcis i weithio. Mwy o wybodaeth