Mae'n amser dathlu i'n graddedigion diweddaraf ni o Fangor
Roeddem yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau ein criw diweddaraf o raddedigion Arweinyddiaeth ION nos Iau diwethaf.
Diolch o galon i noddwyr ein digwyddiad; Ysgol Fusnes Bangor a Siemens-Healthineers o Lanberis.
Graddiodd mwy na 20 o gyfranogwyr ar y noson o gymysgedd o fusnesau a sefydliadau fel Strategaeth Dinas y Rhyl, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Cofnod, Bwyty Dylan’s, Ropeworks Active Cyf., Wild Horse Brewing Co, Small Woods, Cyfreithwyr Lanyon Bowdler, Glaslyn Cyf., RWE Renewables, Gwesty'r Royal Victoria Eryri, a Thrafnidiaeth Cymru.
Mae Nicola Sturrs, Rheolwr Datblygu Busnes o Fangor, wrth ei bodd gydag effaith barhaus y rhaglen. “Rydyn ni'n parhau i gael adborth cadarnhaol am hon a’n holl raglenni, sy’n wych i’w glywed, yn enwedig yr effaith maen nhw'n ei chael ar weithrediadau o ddydd i ddydd cwmnïau ar draws y rhanbarth - llongyfarchiadau unwaith eto i bawb sydd wedi graddio.”
Cyflwynwyd Gwobrau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan Stephen Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Bangor, ac roedd y noson hefyd yn cynnwys negeseuon o longyfarchiadau gan Is Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Edmund Burke, Pennaeth Ysgol Fusnes Bangor, Bruce Vanstone yn ogystal â neges arbennig gan Gyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow.
Llongyfarchiadau i bawb a raddiodd yr wythnos ddiwethaf.
Bydd ein cyfres olaf o Raglenni Lefel 3 ym Mangor yn dod i ben ym mis Mawrth, a bydd ein Rhaglen Lefel 5 derfynol yn dod i ben ym mis Mehefin.
Sylwadau