Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

ION Leadership yn ymestyn ei bartneriaeth â Dinas Abertawe

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 27/7/2022

Mae’n bleser gennym barhau â’n partneriaeth â Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe, fel aelod arian o Rwydwaith Busnes Dinas Abertawe, ar gyfer tymor 2022/2023. Nod y rhwydwaith yw creu rhwydwaith o berthnasoedd rhwng busnesau yn yr ardal leol sydd â diddordeb cyffredin, Dinas Abertawe.

Peterboro2.pngY tymor diwethaf roedd yn bleser gennym gefnogi’r clwb o’r standiau, a thrwy fynychu nifer o ddigwyddiadau treiddgar a difyr, a’r penllanw oedd Gwobrau Chwaraewr y Flwyddyn y tymor diwethaf. Fel rhan o'r aelodaeth, bydd gan ION hysbyseb ar ochr y cae yn Stadiwm Liberty a bydd yn noddi chwaraewr yn y tîm cyntaf, yn ogystal â nifer o fanteision eraill gan gynnwys noddi gemau a hysbysebu yn y rhaglenni.

Mae Arweinydd Rhaglen ION, Suzanne Parry Jones, wrth ei bodd gyda’r newyddion:

“Rydym yn falch iawn o ymestyn ein partneriaeth gyda’r Elyrch. Wrth i ni barhau i ddatblygu arweinwyr eithriadol ledled Cymru, ac ymdrechu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r rhaglen, bydd ein partneriaeth â’r Elyrch yn chwarae rhan hanfodol wrth gynyddu ymwybyddiaeth o’n brand a’n galluogi i ymgysylltu â nifer o fusnesau lleol amlwg. Dymunwn bob lwc i Russell, ei dîm, a’r holl chwaraewyr ar gyfer y tymor nesaf ac edrychwn ymlaen at dymor hynod lwyddiannus, ar ac oddi ar y cae i’r Elyrch a ninnau”.

Mae Rebecca Edwards-Symons, Pennaeth Masnachol Dinas Abertawe, wrth ei bodd gyda’r estyniad i’r bartneriaeth hefyd:

“Rydym yn falch iawn bod ION Leadership wedi dewis aros yn rhan o’n Rhwydwaith Busnes Dinesig am dymor arall. Mae’r CBN yn mynd o nerth i nerth ac mae hynny’n amlwg i’w weld o’r nifer o fusnesau sy’n parhau i adnewyddu eu haelodaeth gyda ni. Mae ION Leadership yn rhan bwysig o’r rhwydwaith ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â hwy ar gyfer tymor 2022-23.”

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ddinas Abertawe am eu cydweithrediad, yn enwedig Emma, ​​Katie a Rebecca, a dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Ymlaen Elyrch!

Sylwadau