Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Uwch ION

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 5/4/2016

Rhaglen Arweinyddiaeth Uwch ION

Mae’r rhaglen Uwch yn rhaglen yn seiliedig ar brofiad sydd wedi’i chreu i’ch helpu i wireddu eich uchelgais sefydliadol. A hoffech chi ddarganfod model strategol ar gyfer twf a dysgu sut i werthuso a rhoi pwyslais ar eich gallu sefydliadol i sicrhau twf optimaidd? A hoffech chi gael dealltwriaeth fwy trylwyr o nodweddion, meddylfryd a gweithredoedd arweinyddiaeth sy’n gyrru twf? A hoffech chi ganfod ffyrdd o greu timau perfformiad uchel i wynebu’r her o newid wrth i’r sefydliad brofi twf ac wrth i’r byd newid?

Os yw hyn yn apelio atoch, yna ymunwch â ni ar y rhaglen Arweinyddiaeth Uwch. Wedi’r cyfan, ein diben yw: cyfoethogi bywydau.

Mae ein rhaglen yn seiliedig ar brofiad – llai o waith yn yr ystafell ddosbarth a mwy o bwyslais ar yr ymarferol. A thrwy eich profiadau byddwch yn ffurfio cysylltiadau a all bara am oes, rhwydwaith amhrisiadwy sy’n ymestyn y tu hwnt i oes y rhaglen.

Cyflwynir manylion pob dydd isod:

Diwrnod 1. Diwrnod sylfaen

Byddwch yn:

  •          Cryfhau eich arferion dysgu Myfyriol i ddatblygu syniadau ar gyfer twf ac arweinyddiaeth
  •          Deall sut i weithredu diwylliant hyfforddi i sicrhau twf eich sefydliad
  •          Paratoi ar gyfer twf personol gyda holiadur Gwytnwch Meddyliol yr ILM
  •          Cwrdd ac ymgysylltu â’ch cymheiriaid ac arbenigwyr mewn datblygu arweinyddiaeth

Dyddiau 2 a 3. Profiad o Herio Arweinyddiaeth

Pa mor finiog yw eich ysgogwyr twf? A allech chi wella eich rhwydwaith ar gyfer twf? A ydych chi’n ymwybodol pa mor gydnerth ydych chi? Yn ystod y deuddydd byddwch yn cael cyfle i ymgysylltu â’ch cymheiriaid ac arbenigwyr mewn datblygu arweinyddiaeth ac yn cael cyfle i:

  •          Fireinio eich dibenion, eich gweledigaeth a’ch amcanion
  •          Dysgu sut i herio rhagdybiaethau (eich rhai eich hun a rhai pobl eraill)
  •          Deall eich gwerthusiad gwytnwch meddyliol
  •          Dylunio eich Cynllun Datblygu Personol
  •          Crynhau eich rhwydwaith twf

Diwrnod 4. Dosbarth Meistr Arwain Her Newid

Os yw twf am ddigwydd, rhaid i newid ddigwydd hefyd. Ac mae’r byd yn newid yn gyflymach nag erioed. Fel arweinydd twf bydd y Dosbarth Meistr dysgu trwy brofiad hwn yn eich helpu i:

  •          Ddeall y rhesymau dros newid yn eich sefydliad
  •          Dadansoddi agwedd at newid y rhai sy’n gysylltiedig â’r broses newid
  •          Rheoli a gweithredu newid yn eich gweithle

Byddwn yn rhoi i chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ragweld ac i fabwysiadu newidiadau ar gyfer twf.

Diwrnod 5. Y Dosbarth Meistr Cynnig ar gyfer Gwerth

Mae cyfleu neges y gall cyflenwyr, rheolwyr, cyflogeion a chwsmeriaid i gyd ei deall yn un o’r blaenoriaethau pennaf ar gyfer twf effeithiol, o’r entrepreneur eofn i’r busnes byd-eang.

Byddwch yn cael cyfle i:

  •          Benderfynu beth yw’r cwestiynau critigol y mae’n rhaid i chi eu hateb.
  •          Dysgu creu’r ystyr a’r dibenion dilys sydd wrth wraidd eich neges.
  •          Darganfod sut i alinio amcanion eich tîm a gwella gallu eich tîm i’w cyfleu.
  •          Gweithio ar eich Cynfas Cynnig ar gyfer Gwerth, pecyn cymorth twf gwerthfawr dros ben i’ch helpu chi a’ch tîm i roi sylw i’ch her cynnig ar gyfer Gwerth mewn ffordd barhaus a hyblyg.  

Diwrnod 6. Dosbarth Meistr Strategaethau ar gyfer Twf

Pa mor barod ydych chi ar gyfer twf? Beth fydd yn digwydd os nad ydych chi’n tyfu mor gyflym neu’n tyfu’n gyflymach na’ch cystadleuaeth? Os nad ydych chi’n tyfu – rydych yn mynd yn llai – oherwydd, yn anorfod, bydd eich cystadleuaeth yn tyfu. Mae’r Dosbarth Meistr hwn wedi’i lunio i’ch helpu i:

  •          Adnabod eich galluogrwydd sefydliadol a sut i arwain twf sy’n seiliedig ar alluogrwydd
  •          Deall eich Niwclews a sut i arwain strategaethau Twf Niwclews
  •          Creu strategaeth ar gyfer eich Opsiynau a sut i arwain strategaethau Twf Opsiynau
  •          Cynllunio ar gyfer Arloesi a sut i arwain strategaethau Twf Arloesi
  •          Deall y Tair Rheol i Wneud Cwmni’n Wirioneddol Wych

 

7. Arwain Tîm Perfformiad Uchel

Felly, rydych chi eisiau tyfu? A oes gan eich tîm yr un cymhelliad? A pha mor alluog ydynt i dyfu? Mae’r Dosbarth Meistr ION hwn wedi’u greu i’ch helpu i greu’r amgylchiadau ac i sefydlu’r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n gydnaws â pherfformiad uchel. Mae’r Dosbarth Meistr hwn wedi’i greu i’ch helpu i:

  •          Ddeall anghenion cymell unigolion a thimau
  •          Edrych ar enghreifftiau ymarferol o strategaethau perfformiad tîm effeithiol
  •          Pennu eich gweledigaeth a’ch amcanion a sut i wneud hynny’n dda
  •          Cydnabod a Gwobrwyo perfformiad uchel mewn timau
  •          Deall effaith diwylliant ar ymgysylltu a pherfformiad
  •          Datgelu strategaethau a phecynnau rheoli ymarferol ar gyfer adeiladu a rheoli timau perfformiad uchel

 

Hyd i gyd a mwy – Byddwn yn ymweld â’ch busnes yn fuan ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen ar gyfer ymgynghoriad ar safle eich sefydliad. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Dosbarthiadau Meistr Ysbrydoliaeth nodedig lle’r ydym yn gwahodd arweinwyr llwyddiannus i adrodd hanes eu taith tuag at lwyddiant. A chofiwch am y Sioe Fasnach – sydd yno i chi bob amser i gynyddu eich rhwydwaith a’ch gwerthiant. A hefyd y Farchnad. Felly ymunwch â ni heddiw.

 

(Gall y rhaglen newid heb rybudd.)

Sylwadau