Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Bu Sarah Wynne, perchennog Wynne & Co Accountants

  1. Pwy ydych chi a beth ydych chi’n ei wneud?

Sarah Wynne ydw i, Cyfrifydd Siartredig a pherchennog Cyfrifwyr Wynne & Co yng Nghaerfyrddin.

Dechreuais Wynne & Co 3 blynedd yn ôl yn dilyn genedigaeth fy mab, ac ers hynny mae’r busnes wedi tyfu’n gyflym.  Mae gen i 4 aelod o staff, ac rydw i newydd symud i adeiladau newydd sbon sy’n ddigon mawr i fy nhîm sy’n tyfu!

Nid oedd sefydlu fy musnes fy hun yn benderfyniad hawdd.  Roedd symud o swydd ddiogel, gorfforaethol, lle'r oedd gennyf gynlluniau eglur i symud ymlaen, ychydig yn debyg i gerdded yn y tywyllwch heb olau.  Ond ar ôl rhoi genedigaeth i fy mab, roedd yn fwy eglur i mi mai dull newydd, mwy arloesol tuag at weithio oedd y cyfeiriad cywir i mi ganolbwyntio arno.

Ym mis Ionawr 2013, pan oedd fy mab yn ddim ond 12 mis oed symudais i fy swyddfa fy hun, a dechreuais sefydlu cwmni cyfrifyddu a fyddai’n ymateb i anghenion go iawn fy nghleientiaid.  Tair blynedd yn ddiweddarach, mae ein henw da cadarnhaol am fod yn wasanaeth agos-atoch, cefnogol a dymunol wedi tyfu a thyfu ‒ ac rydw i’n falch dros ben o’r gwaith yr ydym yn ei wneud.

Rydw i a fy nhîm bob amser ar gael i ateb cwestiynau, a rhoi cyngor a chefnogaeth fel pobl go iawn ‒ yn hytrach na’r ‘siwtiau’ corfforaethol ystrydebol y bydd llawer yn eu cysylltu â chyfrifyddu.  Mae gennym hyd yn oed ystafell ar gyfer plant yn ein swyddfa newydd!  Ac felly, gall cleientiaid ddod i mewn a delio â’u busnes, hyd yn oed os yw’r plant gyda nhw'r diwrnod hwnnw.

Mae Wynne & Co yn cynnig cefnogaeth, hyblygrwydd ac arweiniad.  Rydym yn tyfu gyda’n cwsmeriaid, nid o’u herwydd.  Rydym ni’n cefnogi ein cleientiaid i wneud penderfyniadau gwych sy’n sicrhau bod eu busnesau yn ffynnu.  Rydw i’n angerddol ynglŷn â’r perthnasau yr ydw i’n parhau i’w hadeiladu gyda’m cleientiaid, ac mae’r agosatrwydd hwn yn golygu ein bod yn datblygu ein gwybodaeth yn barhaol am eu busnes.  Rydym ni mewn cytgord da â’u hanghenion penodol a’u hanghenion sy’n datblygu, ac maen nhw’n gwybod y gallan nhw ddibynnu arnom ni ar unrhyw adeg.

  1. Pam y mae hyn yn bwysig i chi?

Mae anghenion busnes pobl wedi newid yn llwyr dros y bum mlynedd ddiwethaf.  Mae llawer o berchnogion busnes yn ceisio ymdopi â phwysau teuluol, addasu i newidiadau yn yr economi, ymateb i ddatblygiadau technolegol, ac yn gyffredinol, yn cael eu gwthio i sicrhau bod eu cwmnïau yn gweithio’n fwy effeithlon a chystadleuol mewn marchnadoedd sy’n newid dros nos.

Ymddengys dulliau traddodiadol tuag at gyfrifyddu yn hynafol i mi yn awr, yn arbennig felly, pan ydych chi’n ystyried cymaint mwy o werth y gall cwmni cyfrifyddu modern fel Wynne & Co ei gyflawni.

Mae ein cleientiaid yn gwybod y gallan nhw godi’r ffôn neu alw am goffi os ydyn nhw angen unrhyw gyngor neu ganllawiau ar sut y mae eu busnesau yn rhedeg ‒ fel y gallan nhw ymateb yn syth i unrhyw broblemau neu ddatblygiadau.  Mae gennym restr gynhwysfawr o wasanaethau cefnogi busnesau, sy’n golygu y gallwn ni deilwra ein gwasanaethau er mwyn cwrdd ag anghenion penodol unrhyw gwmni.

Gallwn ymateb p’un ai yw cleientiaid angen cyngor penodol ar gyfreithiau treth newydd, cyngor neu hyfforddiant datblygu busnes mewn meddalwedd cyfrifyddu newydd yn seiliedig ar gwmwl.

Mae’r hyblygrwydd a’r agosatrwydd hwn yn golygu bod pobl yn dod atom cyn gynted ag y maen nhw angen cyngor neu gefnogaeth.  Cyferbyniad llwyr i’r cyfrifydd traddodiadol a fyddwch efallai ond yn ei weld unwaith y flwyddyn.

  1. Beth arall allwn ni ei ddisgwyl gan Wynne & Co eleni?

Rydw i’n falch iawn o fod wedi symud i’n hadeilad newydd, mwy.  Adeilad yn unig ydyw, ond i mi mae’n adlewyrchu’r cyfeiriad y mae Wynne & Co yn symud iddo’n gyflym.

Rydw i’n meddwl y bydd adeilad newydd Wynne & Co yn mynd yn llai yn fuan iawn!  Mae gennym dîm sy’n datblygu’n gyflym iawn.  Byddwn yn recriwtio ein haelod llawn-amser nesaf o staff yn ystod yr wythnosau nesaf.

O safbwynt y busnes, hoffwn gefnogi mwy o gwmnïau sy’n cychwyn er mwyn datblygu eu breuddwydion busnes.  Yn ddiau, gall cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol gwych wneud gwahaniaeth.

Yn ogystal, rydw i’n cael fy ysgogi i ddangos i gwmnïau mwy sut y gall ein cwmni ni newid y ffordd y maen nhw’n gwneud busnes.  Oddeutu wythnos yn ôl yn unig gwnaethom arbed £16,000 i un cleient drwy ychydig o gynllunio syml.  Rydw i’n mwynhau’r teimlad o sicrhau bod fy nghleientiaid yn cael trefn ar eu materion ariannol, fel y gallan nhw fwrw ymlaen i redeg eu busnes gan wybod ein bod ni’n gofalu am bopeth arall drostyn nhw.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio er mwyn datblygu llyfrgell fideo a fydd ar gael o’n gwefan.  Bydd y fideos yn cynnwys esboniadau clir ar ‘sut i’ a fydd yn rhydd o jargon ar amrywiol bynciau fel treth, neu esboniadau clir ynglŷn â deddfwriaethau newydd.

Unwaith eto, agosatrwydd a chefnogaeth yw’r sylfaen.

  1. Beth yw’r cyngor busnes gorau a gawsoch chi hyd yma?

Cwestiwn anodd ydi hwn.  Mae’n rhaid i mi ddweud mai’r cyngor gorau a gefais erioed oedd dilyn fy ngreddf, oherwydd ei bod bron bob amser yn iawn.

Pan oeddwn i’n gyfrifydd cyflogedig, ac yn gweithio pob awr o’r diwrnod ac yn methu â gweld fy mab yn aml iawn, roeddwn i’n esbonio’n angerddol wrth ffrind, sut yr oeddwn i’n credu dylai cwmni cyfrifyddu gael ei redeg.  Rhyw fath o dantro mae’n debyg!

‘Wel, am beth yr ydych chi’n disgwyl amdano?...newid yng nghyfeiriad y gwynt?!!’

Gwnaeth ateb parod ‘cefnogol’ fy ffrind wneud i mi feddwl ‘pam ddim fi!?  Mae’n rhaid i rywun ei wneud.

Er fy mod yn teimlo’n nerfus yr adeg honno, roedd gwrando ar fy ngreddfau busnes yn gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig ydyn nhw.  Yn awr, pan rydw i’n teimlo bod fy nghwmni angen dod yn fwy agos-atoch neu’n ymatebol mewn unrhyw ffordd, nid wyf yn disgwyl newid yng nghyfeiriad y gwynt!  Rydw i’n symud ymlaen ac yn achosi newid! ‒ ac mae hyn wedi bod yn anhygoel o werthfawr i’m cleientiaid presennol, ond mae’n denu llawer mwy o bobl hefyd.

  1. Lle allwn ni ddarganfod mwy ynglŷn â Wynne & Co?

Gallwch ymweld â’n gwefan yn www.wynneandco.co.uk, lle byddwch yn darganfod mwy am y gwasanaethau amrywiol yr ydym yn eu cynnig.

Mae croeso i chi danysgrifio i dderbyn ein cylchlythyrau sy’n canolbwyntio ar ddarparu’r newyddion diweddaraf i bobl ac awgrymiadau ar sut y gall newidiadau syml eraill arbed miloedd o bunnoedd yn llythrennol, yn ogystal â rhoi cyngor a chanllawiau ynglŷn ag effeithiau unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy’n dod i’r amlwg.

Yn ogystal, gallwch gysylltu â mi ar LinkedIn.

Neu dewch draw am goffi yn ein hadeilad.

Ewch i answermethis@wynneandco.co.uk yn ogystal er mwyn cysylltu â ni am gyngor cyflym drwy e-bost

neu drwy gysylltu’n bersonol â sarah@wynneandco.co.uk

 

Sylwadau