CYFWELIAD GYDA MAUREEN YOUNG – CYFARWYDDWR - RUTHIN DÉCOR
CYFWELIAD GYDA MAUREEN YOUNG – CYFARWYDDWR - RUTHIN DÉCOR
1) Pwy wyt ti, a beth wyt ti’n ei wneud?
Mae Ruthin Décor yn siop nwyddau i'r cartref a DIY yn Rhuthun yn Sir Ddinbych. Prynu yw fy rôl i, yn enwedig ar gyfer ein hamrywiaeth o nwyddau i’r cartref, ynghyd â rheoli ein gwefan, sy’n lletya gwasanaeth e-fasnach sydd â chwsmeriaid ledled y DU. Rydyn ni wedi ehangu llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan symud i siop fawr ar stryd fawr tre farchnad Rhuthun, a datblygu amrywiaeth o nwyddau i'r cartref i gyd-fynd ag ochr draddodiadol y busnes sy’n cynnig paent a deunyddiau DIY.
2) Pam mae hyn yn bwysig i ti?
Mae Ruthin Décor yn fusnes teuluol, ac rwy’n gweithio arno gyda Nick, fy ngŵr. Cyfrifeg a thechnoleg gwybodaeth gorfforaethol yw fy nghefndir, ond roeddwn i am gael ffordd o fyw a busnes oedd yn canolbwyntio’n fwy ar y teulu. Mae hefyd yn braf iawn pan fyddwn yn cael adborth gan gwsmeriaid bodlon sy’n dweud bod ein cyngor a’n cynnyrch wedi helpu i greu ystafelloedd a chartrefi hyfryd!
3) Beth arall allwn ni ei ddisgwyl gan Ruthin Décor eleni?
Rydyn ni’n bwriadu ehangu ein hamrywiaeth o ddodrefn meddal a llenni, ynghyd â chreu ystafell ymolchi arddangos newydd i gyd-fynd â'r teils rydyn ni’n eu cynnig eisoes. Rydyn ni wedi dod yn bell – er enghraifft, ni yw un o werthwyr golau mwyaf gogledd Cymru erbyn hyn. Rydyn ni’n dilyn ein greddf a’n gweledigaeth bersonol, yn ogystal â gwrando ar adborth y cwsmeriaid. Mae ein gwaith o ddatblygu nwyddau i'r cartref yn golygu bod gennym ni bortffolio o gynnyrch sy’n rhoi elw canrannol uwch i ni.
4) Beth yw’r cyngor busnes gorau i chi ei gael hyd yn hyn?
Roedd Jim Gaffney o One Planet Adventure yn fy ngharfan LEAD Cymru. O ran marchnata, dywedodd ‘cer amdani, does gen ti ddim byd i’w golli.’ Fe wnes i wrando ar y cyngor hwnnw a chynnig Ruthin Décor yn y gystadleuaeth ‘Gwerthwr Décor y Flwyddyn.’ Fe wnaethon ni ennill gwobr Gwerthwr Décor Gorau’r DU yn 2014, ac eto yn 2015. Hen bryd i ni roi cyfle i rywun arall yn 2016! Mae Jim Gaffney, ar ran One Planet, wedi ennill gwobr ‘Brechdan Cig Moch Gorau'r DU’ gan BMW Good Food Rides.
5) Ble allwn ni gael mwy o wybodaeth am Ruthin Décor?
Ewch i www.ruthindecor.co.uk neu dewch i’n gweld yn 51 Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF. Ein rhif ffôn yw 01824 702849
Sylwadau