Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

CYFWELIAD GYDA MARK MCKENNA, UN O'R CYFARWYDDWYR A SEFYDLODD DOWN TO EARTH.

CYFWELIAD GYDA MARK MCKENNA, UN O'R CYFARWYDDWYR A SEFYDLODD DOWN TO EARTH.

Mae Mark yn siarad ag ION leadership ynglŷn â chreu byd sy’n ystyriol o natur, modelau busnes newydd a’r cyngor busnes gorau mae wedi ei gael.

1)      Pwy wyt ti, a beth wyt ti’n ei wneud?

Mark McKenna - Fi yw un o’r cyfarwyddwyr a sefydlodd Down to Earth, menter gymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ei lleoli ar benrhyn Gŵyr, Abertawe.

_MG_6947.jpgYn syml, rydyn ni’n credu bod gan brofiadau yn yr awyr agored sy’n ystyrlon ac yn canolbwyntio ar berthnasau y potensial i newid bywydau... rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddulliau arloesol a chynhwysol, megis creu adeiladau anhygoel gyda deunyddiau naturiol a thechnolegau adnewyddadwy, rhaglenni llesiant a dysgu yn yr awyr agored, yn ogystal â gweithgareddau antur gan ein dwy ganolfan a adeiladwyd â llaw ar y Gŵyr...

Er mai gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac ‘anodd eu cyrraedd’ yw ein maes arbenigol, rydyn ni hefyd yn gweithio’n helaeth gyda grwpiau busnes a chorfforaethol ar ddiwrnodau meithrin tîm, datblygiad proffesiynol parhaus a rhaglenni hyfforddi amrywiol.  Gallwn gynnig hyfforddiant a chymwysterau sydd wedi’u hachredu’n llawn, gan ein bod yn ganolfan sydd wedi ei chymeradwyo gan Agored Cymru.

Rydyn ni wrthi’n rhoi’r cyffyrddiadau olaf ar ddatblygiad gwerth £1.2 miliwn ar ein hail safle ar y Gŵyr – cyfleusterau hyfforddi rhagorol sydd wedi eu hadeiladu gan grwpiau mwyaf agored i niwed de Cymru, ac ar eu cyfer. Adeiladwyd yr adeilad gyda'r deunyddiau mwyaf cynaliadwy a lleol mae modd cael gafael arnyn nhw.

Bydd y ganolfan hon yn gwbl adnewyddadwy ac oddi ar y grid i bob pwrpas, drwy ddefnyddio’r technolegau mwyaf blaengar. 

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill i greu adeiladau anhygoel ar eu safleoedd nhw, ynghyd â meithrin hyder i gael eu grwpiau nhw i’r awyr agored.

Yr hyn sy’n gwneud Down to Earth yn wahanol yw ein bod yn arloesi ym maes addysg, gofal iechyd a threchu tlodi drwy fod yn yr awyr agored a chreu adeiladau cynaliadwy.  Mae tair blynedd o ymchwil clinigol gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ategu hyn, ynghyd â 7 blynedd o ymchwil sydd wedi ei ddilysu’n allanol. Rydyn ni’n dangos bod ffyrdd cwbl wahanol o ddarparu gwasanaethau integredig sy’n fuddiol i bobl ac i natur.

 

2)      Pam mae hyn yn bwysig i ti?

IMG_4094.JPGMae’n deg dweud bod rhaid i’r drefn arferol ddod i ben.  Yn bersonol, rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch cydraddoldeb, ac yn fy marn i mae cynaliadwyedd yn ffordd o wella ansawdd bywyd a sicrhau cynhwysiant cymdeithasol, gan greu byd sy’n ystyriol o natur ar yr un pryd.

Mae modelau busnes newydd yn dod i’r amlwg, sy’n dangos sut gallwn ni wireddu'r weledigaeth hon, ac mae mentrau (neu fusnesau) cymdeithasol yn rhan bwysig o’r weledigaeth.

 

3)      Beth arall allwn ni ei ddisgwyl gan Down to Earth eleni?

Eleni yw ein pen-blwydd yn 10 oed, ac mae’n cyd-daro ag agoriad ein canolfan hyfforddi newydd yn Little Bryn Gwyn, y Gŵyr (wedi’i hariannu gan Gronfa Loteri Fawr Cymru a Llywodraeth Cymru).

Byddwn hefyd yn lansio ein prosiect newydd, bum mlynedd o hyd, o’r enw “Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy” (wedi’i ariannu gan Our Bright Future a Chronfa Loteri Fawr y DU). Rydym wedi cael bron i filiwn o bunnoedd i weithio gyda phobl ifanc agored i niwed rhwng 16 a 24 oed i greu adeiladau cynaliadwy anhygoel.

Ac i gloi, byddwn yn dechrau adeiladu’r adeilad mawr nesaf yn ystod tymor yr hydref, gyda bron i £600,000 wedi ei roi i ni gan Loteri Cod Post y Bobl. Byddwn yn adeiladu canolfan breswyl dau lawr ragorol gyda phobl ifanc yn Little Bryn Gwyn.

Mae blwyddyn brysur o’n blaenau ni!

 

4)      Beth yw’r cyngor busnes gorau i chi ei gael hyd yn hyn?

Buckminster-Fuller: “You never change things by fighting the existing reality.  To change something, build a new model that makes the existing model obsolete.”

 

5)      Sut allwn ni gael mwy o wybodaeth am Down to Earth ac ymuno â’r hwyl?

IMG_4150.jpgDewch draw am baned, neu ewch i’n gwefan -  www.downtoearthproject.org.uk - a chymryd golwg ar ein tudalennau ar gyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr…

Bydd mis Awst yn llawn digwyddiadau lansio a phen-blwydd, ond does dim rhaid i chi aros tan hynny – gallwch archebu lle i grŵp ar ein gweithgareddau ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni’r gweddill.

Sylwadau