Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Liz Williams - Rheolwr Gyfarwyddwr - Pine and Oak Direct

himolla-Tamar.jpg

1)      Pwy wyt ti, a beth wyt ti’n ei wneud?

Fi yw Rheolwr Gyfarwyddwr Pine and Oak Direct.  Wedi ei sefydlu ym 1985, erbyn hyn ni yw'r arbenigwyr dodrefn annibynnol mwyaf yng ngogledd Cymru, gyda 10,000 troedfedd sgwâr a 24 o fathau o ystafelloedd i ddewis ohonyn nhw, er enghraifft!

 

2)      Pam mae hyn yn bwysig i ti?

Rwyf wrth fy modd yn helpu cwsmeriaid i ailddylunio eu hystafelloedd a’u cartrefi, ac yn cynghori a chefnogi o ran syniadau newydd a themâu dylunio.  Rydyn ni’n treulio llawer o amser yn dod yn ymwybodol o dueddiadau dylunio newydd a’u hymgorffori yn yr hyn rydyn ni’n ei gynnig.

 

3)      Beth arall allwn ni ei ddisgwyl gan Pine and Oak Direct eleni?

Rydyn ni’n buddsoddi mewn ffynonellau gwyrdd newydd ar gyfer ein dodrefn derw fforddiadwy.  Ac, yn gyffrous, rydyn ni’n gobeithio datblygu cyfle busnes i bobl allu rhedeg masnachfraint Pine and Oak Direct ledled y DU. 

 

4)      Beth yw’r cyngor busnes gorau i ti ei gael hyd yn hyn?

Cyngor LEAD Cymru - “Gweithia ar y busnes yn hytrach nag yn y busnes” - fe wnaeth hyn ganiatáu i mi dreulio mwy o amser yn meddwl ac yn cynllunio.  Hefyd, roedd rhai o'r ymarferion yn y sesiwn dysgu drwy brofiad dros nos, gan gynnwys cael fy nhywys – gyda mwgwd dros fy llygaid – ar draws traeth gan berson busnes arall, yn gwneud LEAD yn rhwydwaith cefnogol a ffyddiog dros ben.

 

5)      Ble allwn ni gael mwy o wybodaeth am Pine and Oak ac ymuno â’r hwyl?

Ewch i www.pineandoakdirect.co.uk neu dewch i’n gweld yn Lôn Parcwr, Rhuthun, LL15 1NJ. Ein rhif ffôn yw 01824 707295. 

Sylwadau