Sut ydych chi'n Arloesi ?
Arolwg Arwain Arloesedd
Annwyl Gyfrannwr
Rydym yn ymchwilio arddulliau arweinyddiaeth sydd yn meithrin ymddygiad arloesol mewn gweithwyr yn y Deyrnas Unedig.
Fel mae amgylchedd busnes yn dod yn fwy cynhyrfus, cymhleth a deinamig, mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd effeithiol yn cael ei weld fel mantais gystadleuol. Mae deall sut i arwain arloesedd yng nghyd-destun BBG yn faes nad ydyw wedi cael ei ymchwilio rhyw lawer; ac eto mae yn faes sydd yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr a chyfraniad i wella ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth gyda goblygiadau sydd yn ymwneud efo rheolaeth a pholisiau.
Drwy gydnabod pwysigrwydd arloesedd ac arwain arloesedd yng nghyd-destun BBG, mae’r ymchwil yma wedi’i selio ar adnabod ymddygiad arweinyddiaeth penodol sydd yn magu ymddygiad gwaith arloesol mewn BBG. Rydym yn deall eich bod yn brysur, felly, byddwn yn ceisio cymryd cyn lleied o’ch amser ag sydd yn bosibl. Y cwbl rydym yn ei ofyn yw i chi roi 10 – 15 munud o’ch amser i gwblhau yr holiadur.
Bydd eich ymatebion yn cael eu cadw yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd eich cwmni na chi yn cael eu adnabod ar unrhyw adeg o’r dadansoddiad.
Fel entrepreneur llwyddiannus yn y DU, ni allwn nodi yn ddigon cryf mor werthfawr yw y ffaith eich bod yn cymryd rhan gyda’r astudiaeth yma. Fel cyfrannwr byddwch wrth gwrs yn derbyn crynodeb o ganlyniadau y prosiect ymchwil diddorol yma.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynnau, neu fod angen ychwaneg o wybodaeth arnoch cofiwch gysylltu efo ni abp65a@bangor.ac.uk
Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am gymryd rhan yn yr ymchwil https://www.surveymonkey.co.uk/r/FVC8GZ3
Ar ran Tim y Prosiect
Yn gywir
Dr Siwan Mitchelmore
Sylwadau