Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Digwyddiadau yn Abertawe a Llandudno i ddathlu 10 mlynedd o ddatblygu arweinwyr eithriadol

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 2/8/2019 / ION leadership news

Yn 2019 bydd arweinyddiaeth ION, prosiect a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn dathlu 10 mlynedd o ddatblygu arweinyddion eithriadol. Bydd y pen-blwydd arbennig yn cael ei ddathlu gyda 2 ddigwyddiad, yn Abertawe a Llandudno, ar ddydd Mercher 6ed Tachwedd 2019

Bydd yn cynadleddau, a fydd yn agored i bawb, yn dathlu  busnesau ac arweinyddiaeth Cymreig, gyda gwesteion yn clywed gan arbenigwyr y diwydiant, yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol ac yn cael y cyfle i siarad un-i-un gydag arbenigwyr o wahanol feysydd.  Bydd ‘marchnad’ hefyd lle y bydd busnesau lleol, y rhai sydd wedi bod drwy raglenni arweinyddiaeth ION a LEAD Cymru a’r rhai na fu, yn cael y cyfle i arddangos eu busnesau.

Bydd cynadleddwyr yn y digwyddiad yn Abertawe, Dathlu Busnesau Cymru, yn clywed gan sefydliadau fel Distyllfa PenderynChwarae Teg a Prifysgol Abertawe gyda rhagor o enwau i gael eu cyhoeddi.

Bydd cynadleddwyr yn y digwyddiad yn Llandudno, Ffocws ar fusnes Gogledd Cymru yn clywed gan Dr Paul Thomas ac Is- ganghellor newydd Prifysgol Bangor, Iwan Davies. Cyhoeddir rhagor o enwau’n fuan.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor, cefnogir prosiect arweinyddiaeth ION gyda £3.7m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gynyddu sgiliau a gyrru cynhyrchedd a throsiant ymlaen mewn mentrau bach a chanolig (SME) yn ogystal ag mewn cwmnïau mwy.

Mae’r fenter wedi cynorthwyo dros 1300 o reolwyr, darpar arweinwyr ac entrepreneuriaid mewn bron i 1000 o fusnesau i ddatblygu sgiliau o ansawdd uchel drwy raglenni arweinyddiaeth wedi’u targedu sy’n anelu at gynyddu cynhyrchedd yn y gweithle wrth ddatblygu mentrau cynaliadwy, sy’n gwneud elw.

Mae Gary Walpole, Cyfarwyddwr Rhaglen arweinyddiaeth ION yn edrych ymlaen at y dathlu:

“Rwy’n falch iawn o gael dathlu 10 mlynedd o ddatblygu arweinyddion eithriadol. Hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd ran ar ein taith - boed yn rhan o’r tîm, wedi mynychu un o’n rhaglenni neu ddigwyddiadau, wedi siarad ar ein rhan neu wedi ein cefnogi mewn unrhyw fodd. Mae cynnal digwyddiadau yng Ngogledd ac yn Ne Cymru yn ffordd wych o ddathlu ein pen-blwydd ac rwy’n edrych ymlaen i groesawu cyn-fyfyrwyr LEAD Cymru ac arweinyddiaeth ION, yn ogystal â busnesau newydd a chynadleddwyr y dyfodol, i’r dathliad.”

Gellir archebu lle yn y digwyddiad yn Abertawe, a gynhelir yn Stadiwm Liberty, yn awr, a gallwch archebu eich lle drwy ein gwefan.

Mae’r digwyddiad yn Llandudno, a gynhelir yn Venue Cymru, hefyd yn agored ar gyfer archebion. Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer arddangos, cysylltwch â leadingbusinessgrowth@bangor.ac.uk.

Sylwadau