Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Recriwtio Talent i Ddatblygu Busnes

Proses cofrestru wedi cau

Mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen.

Manylion digwyddiad
2 awr
Porth Eirias, Conwy LL298HH
08:30 - 10:30
£0.00 eich cyfraniad

Crynodeb digwyddiad

Dydd Mercher 7fed Medi, 8.30am – 10.30am

Teitl:    Recriwtio Talent i Ddatblygu Busnes    

Gall recriwtio’r bobl gywir ychwanegu gwerth aruthrol at eich busnes, ond gall cyflogi’r bobl anghywir fod yn drychinebus. Nod y dosbarth meistr recriwtio diddorol, craff a rhyngweithiol hwn yw tynnu sylw at rai o’r meysydd lle gwneir camgymeriadau, a rhoi syniadau gwych i chi sut mae sicrhau eich bod yn recriwtio'r bobl gywir ar gyfer eich busnes er mwyn ei helpu i ffynnu.

Bydd yn cynnwys;

-       Creu Strategaeth Recriwtio Effeithiol i Ddatblygu Busnes

-       Dulliau Denu Talentau

-       Ysgrifennu Hysbyseb Swydd Ar-lein Effeithiol

-       Pŵer Brand Cyflogwr

Manylion am y Cyflwynydd

Mae gan JVP, yr arbenigwyr hysbysebu recriwtio, wasanaeth arbennig, ar flaen y gad, gyda llwyddiant a briodolir i wybodaeth drylwyr am y farchnad a gwaith caled sy'n arwain at sylfaen cleientiaid rhagorol, sy'n tyfu. A hithau â 15 mlynedd o brofiad mewn recriwtio, mae Cath Harrison (cyn gynrychiolydd LEAD Cymru) yn arwain tîm JVP o’r brif swyddfa ym Modelwyddan. Mae’n cefnogi cyflogwyr ledled y DU, o fusnesau bach a chanolig i sefydliadau mawr sefydlog, ac mae’r cleientiaid hynny wedi bod mor fodlon â gwasanaeth JVP, a’u dull dyfeisgar o recriwtio, fel bod y cwmni wedi ennill gwobrau.

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .