Crynodeb digwyddiad
Dyddiad 07/09/2016
Lleoliad: Parc y Scarlets Stadium, Llanelli
Oeddech chi’n gwybod mai cwmni sydd â’i bencadlys yng Nghymru sy’n cynhyrchu Hell’s Kitchen?
Ymunwch ag ION leadership a Tinopolis ar gyfer Sesiwn Ysbrydoli.
Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Grŵp Tinopolis, fydd yn cyflwyno'r sesiwn. Bydd Ron yn sôn am sut y dechreuodd Grŵp Tinopolis a’i arwain i ddod yn gwmni cynhyrchu a dosbarth rhaglenni yn rhyngwladol, gyda phresenoldeb arwyddocaol yn y farchnad gyfryngau fyd-eang, fel rhan o’r Ŵyl Arloesi. Tinopolis yw un o’r cyflenwyr rhaglenni teledu annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer yr holl brif rwydweithiau yn yr Unol Daleithiau.
Maes arloesi.
Strategaeth ym myd busnes a’r cyfryngau
Pwy ddylai ddod?
Arweinwyr busnes, Academia, y trydydd sector.
Y manteision o fod yn bresennol?
Cael eich ysbrydoli a chael gwybodaeth am arwain, arloesi a strategaethau.