Beth ddigwyddodd pan wnaethon ni "gymysgu" cynadleddwyr LEAD ac ION?
Ar y 30ain o Fawrth fe wnaeth cynadleddwyr LEAD ac ION gyfarfod am y tro cyntaf yn Stadiwm Liberty yn Abertawe ...
…na nid gêm rygbi oedd hi, er y byddai hynny’n sicr o gyfrif fel gweithgaredd profiadol!
Roedd yn ddiwrnod grêt o ddysgu a rhwydweithio.
4 gweithdy, 38 yn bresennol a chyfle unigryw i rwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd.
Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn egnïol gan Mark Hodder. Cawsom gyfle i ddysgu am y wyddoniaeth sy’n sail i feddwl yn bositif a sut i ddatblygu arferion pwerus i ddod â mwy o hapusrwydd i’n gweithle ac i’n bywyd.
Wedyn rhannodd y grŵp yn ddau: aeth rhai pobl i Ddosbarth Meistr Ben Wheelers ar Farchnata a dewisodd eraill gael gwybod mwy am sicrhau Cyllid, o dan arweiniad arbenigol Rob Warlow.
Yn y cinio rhwydweithio i ddilyn, bu’r cynadleddwyr i gyd yn sgwrsio ac roeddem yn falch o ddeall bod partneriaethau a chysylltiadau defnyddiol wedi cael eu gwneud!
Yn olaf, cafodd y cynadleddwyr eu herio gyda blas ar ddysgu profiadol a oedd yn dod ag atgofion am eu cyfnod gyda LEAD neu ION…
Llawer o ddiolch i’n siaradwyr ni ac i’r holl gyfranogwyr!
Sylwadau