Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhoi hwb sgiliau ac arloesedd mewn busnesau gweithgynhyrchu Cymru

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 1/8/2016 / ION leadership news

040616_Beacon_Foods_001.JPG

Ym mis Awst 2015, roedd Prifysgol Abertawe yn un o bum sefydliad a ddewiswyd gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES) i dreialu ffyrdd newydd o feithrin sgiliau ar gyfer arloesi yn y diwydiant gweithgynhyrchu.

Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglenni datblygu arweinyddiaeth blaenorol, aeth Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag EEF, y fforwm gweithgynhyrchu, a Diwydiant Cymru, ati i ddatblygu a darparu rhaglen hyfforddi 12 mis, sef SIM Cymru, er mwyn helpu i wella sgiliau ac arloesedd mewn busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru. 

Aeth SIM Cymru ati i ddefnyddio'r egwyddorion a ddatblygwyd yn rhan o gwrs datblygu arweinyddiaeth diweddar Prifysgol Abertawe, a'u cymhwyso at y diwydiant gweithgynhyrchu.

Gan weithio gydag arweinwyr busnes ac uwch-reolwyr, ffocws y rhaglen oedd meithrin sgiliau a gwybodaeth ym maes rheoli arloesedd a datblygu diwylliant o arloesi yn sefydliadau'r cyfranogwyr. Gwnaed hyn trwy ddysgu trwy brofiad – gyda'r cyfranogwyr yn dysgu o brofiadau ymarferol.

Meddai arweinydd y prosiect, Gary Walpole:

"Cynlluniwyd rhaglen SIM Cymru i sicrhau newid a gwelliant gwirioneddol mewn busnesau yng Nghymru, ac ni all hynny ond fod wedi cael effaith gadarnhaol ar y cwmnïau dan sylw a'r economi ehangach yng Nghymru.”

“Dyfarnwyd gwobr UKCES ar y sail ein bod yn gallu cynnig cynigion newydd ac arloesol i roi hwb i'r sgiliau a'r arferion busnes y mae eu hangen i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o arloesedd y DU. Rydym wedi mwynhau gwneud hynny'n arw dros y 10 mis diwethaf."

Meddai Comisiynydd UKCES ac arweinydd y gystadleuaeth, Paul McKelvie OBE:

"Mae arloesi yn hanfodol i'n ffyniant cenedlaethol. Mae ganddo rôl allweddol i'w chwarae o ran cynhyrchiant a chreu swyddi, a hynny'n fwy gwir yn y sector gweithgynhyrchu nag yn unman arall.  Mae'n hollbwysig ein bod yn dysgu sut y gall cwmnïau gweithgynhyrchu wneud y gorau o'u gweithleoedd a'u prosesau, er mwyn manteisio i'r eithaf ar eu gweithwyr medrus a chynhyrchiol iawn."

Sylwadau