Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

RHESTR FER: Gwobrau Arweinwyr Busnes Gogledd Cymru!

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 7/4/2017 / ION leadership news

awards.jpg

Rydym yn falch o gyhoeddi bod arweinyddiaeth ION Bangor wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Arweinwyr Busnes Gogledd Cymru 2017 yn y categori Datblygu Pobl.

Gwnaed y cais hwn ar y cyd â Marco Cable Management o Langefni – mynychwyr ION

Gallwch glicio yma i weld y rhestr fer lawn.

Bydd enillwyr y gwobrau, a drefnir gan Wales Business Insider, yn cael eu datgelu mewn cinio ffurfiol yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 26 Ebrill.

Y digwyddiad hwn yw’r gwobrau busnes cyntaf, a'r unig un o’i fath, sy'n cwmpasu pob rhan o ogledd Cymru, a bydd yn dathlu llwyddiannau cwmnïau, entrepreneuriaid a gweithwyr busnes proffesiynol.

Llongyfarchiadau i dîm Bangor ar gyrraedd y rhestr fer!

Sylwadau