Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Cyhoeddi rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer Cymru gyfan

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 1/3/2022 / ION leadership news

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn am y tro cyntaf yn cynnal rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer Cymru gyfan, gan ddechrau ym mis Mehefin 2022.

Yn draddodiadol mae ein rhaglenni wedi cael eu cynnal ar wahân gan dimau ym Mangor ac Abertawe. Fodd bynnag, am y tro cyntaf yn ein hanes o 11 mlynedd rydym yn dod at ein gilydd i uno busnesau ledled Cymru (yn dibynnu ar fodloni meini prawf ardal cydgyfeiriant).

Mae Arweinydd Rhaglen ION Suzanne Parry Jones yn edrych ymlaen yn fawr at weld y rhaglen yn dechrau arni.

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r grŵp yma ar gyfer Cymru gyfan. Rydym wedi meithrin perthnasoedd gwych gyda chymaint o unigolion a busnesau yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf. Rydym eisiau adeiladu ar y perthnasoedd hynny – gan barhau i ddatblygu arweinwyr mwy effeithiol, a pharhau i gyfrannu at ddatblygu busnesau cynaliadwy, proffidiol sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at economi Cymru. Rydw i wrth fy modd bod ein timau ni yn Abertawe ac ym Mangor yn cydweithio i ddod â'n rhaglen arweinyddiaeth hynod effeithiol a llwyddiannus i fwy o fusnesau ledled Cymru.

Rydym yn eiriolwyr brwd dros bwysigrwydd dysgu rhwng cymheiriaid a rhannu arfer da. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfle i fusnesau o bob rhan o Gymru ddysgu oddi wrth ei gilydd a chreu rhwydwaith cadarn, rhwydwaith sy’n ymgorffori dysgu, arloesi, ymddiriedaeth a chydlyniant yn ei ymarfer.”

Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys? ION_leadership_programmes_graphic.png

Y rhaglen yw ein rhaglen Arwain Twf Lefel 5 ILM. Gan ganolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr, mae'n rhoi pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau arwain i hwyluso twf busnesau.

Bydd y rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cyfranogwyr o ran darparu cyfeiriad cadarn ac ysgogi eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae’r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl yn strategol - “gweithio ‘ar’ y busnes, nid ‘yn’ y busnes”.

Bydd cyfranogwyr y rhaglen yn gwneud y canlynol:

  • Dysgu deall amrywiaeth o arddulliau arwain, a'r effaith ar berfformiad sefydliadol
  • Datblygu'r gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau
  • Sbarduno cynhyrchiant a pherfformiad
  • Ymuno â chymuned o bobl angerddol ac uchelgeisiol
  • Datblygu persbectif mwy strategol
  • Gwella twf personol

Mae modiwlau’r rhaglen yn cynnwys Proffilio DISC a Deallusrwydd Emosiynol, Arwain Newid, Arwain Arloesi a Diwylliant a Gwerthoedd (ymhlith llawer o rai eraill).

Hefyd bydd y cyfranogwyr yn cael 3 sesiwn Hyfforddi Gweithredol. Mae’r rhaglen hon wedi’i hardystio gan y CPDSO am hyd at 70 awr DPP (yn amodol ar bresenoldeb), ac yn darparu i’r cyfranogwyr Ddyfarniad Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth (ILM) mewn Arwain a Rheoli.

Yn ogystal â’r uchod, rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gyda nifer o bartneriaid yn y diwydiant, a busnesau rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, i weld sut gallant rannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u dirnadaeth gyda chyfranogwyr y rhaglen. Cadwch lygad ar ein gwefan ni am ddiweddariadau pellach.

Pam ddylech chi gofrestru?

Y rhaglen yma ar gyfer Cymru gyfan yw ein rhaglen arweinyddiaeth gyntaf erioed ledled Cymru. Mewn mwy nag 11 o flynyddoedd rydym wedi cefnogi mwy na 1600 o arweinwyr ledled Cymru i fod yn rhyfeddol, ac mae gennym fformiwla glir ar gyfer llwyddiant.

Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, yn enwedig i’r rhai mewn busnes, mae datrys problemau, gwydnwch busnesau a’r gallu i arloesi yn rhai o’r sgiliau allweddol sydd eu hangen nid yn unig i fusnesau oroesi, ond ffynnu. Bydd y rhaglen hon yn gyfle i’r cyfranogwyr nid yn unig ddysgu oddi wrth ei gilydd, ond hefyd oddi wrth ein harbenigwyr datblygu arweinyddiaeth hynod brofiadol, a phartneriaid diwydiant, gan ffurfio cymuned o ymarfer (COP).

Bydd y cyfranogwyr yn rhannu arfer gorau, o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â dysgu am bwysigrwydd arwain newid ac arloesi, a dysgu sut orau i roi’r syniadau, y strategaethau a’r arferion gorau diweddaraf ar waith yn eu busnes eu hunain.

Felly, os ydych chi’n bwriadu ehangu eich busnes yng Nghymru, a thu hwnt, cysylltwch â ni.

Sut gallwch chi gael gwybod mwy?

Ydi'r uchod yn swnio o ddiddordeb i chi a'ch busnes? Os felly, mae ein tîm recriwtio wrth law i drafod y rhaglen ymhellach gyda chi. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy, cysylltwch â Kaye Harris-John ar 07808 847332 neu Nicola Sturrs ar 01248 383024. Fel arall, e-bostiwch ionleadership@swansea.ac.uk gyda'ch manylion cyswllt, a bydd aelod o dîm recriwtio ION yn cysylltu â chi.

Sylwadau