Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Cyfleoedd dysgu newydd dros y we yn cael eu lansio

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 29/4/2020 / ION leadership news

Yn ION rydyn ni’n credu’n gryf mewn dysgu drwy’r amser. Rydyn ni’n falch iawn felly i gyhoeddi ein hamserlen â chyfleoedd dysgu dros y we.

Mae hwn yn gyfnod heb ei debyg. Mae pawb yn ION eisiau eich sicrhau ein bod ni’n gallu cefnogi ein Cyn fyfyrwyr yn ogystal â busnesau ar draws Cymru, os ydyn ni’n gallu. Ond dydyn ni ddim eisiau honni ein bod yn gwybod pa gymorth mae pobl ei angen.

Fe wnaethon ni gynnal arolwg a siarad â’n Cyn fyfyrwyr er mwyn gofyn iddyn nhw pa gymorth roedden nhw ei angen ac rydyn ni wedi datblygu gwerth mis o gyfleoedd dysgu dros y we, ar gyfer ein Cyn fyfyrwyr a busnesau ar draws Cymru. Bydd cyfleoedd eraill ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu yn seiliedig ar adborth o’r sesiynau sydd ar y gweill.

Mae Suzanne Parry Jones, Rheolwr Rhaglennu wedi’i lleoli yn Abertawe wrth ei bodd gyda’r newyddion heddiw. “Mae ein dull arferol o weithio yn un wyneb i wyneb. Mae’r cyfyngiadau symud presennol felly wedi ein gorfodi i wneud pethau’n wahanol, ac rwy’n hapus iawn bod y tîm wedi datblygu’r amserlen hon gyda chyfleoedd dysgu dros y we. Mae hyn yn golygu y bydd ein cynrychiolwyr yn cael cyfle i barhau i ddysgu, ond bydd aelodau ein tîm hefyd yn dysgu ffyrdd newydd o weithio dros y we.”

Gellir cofrestru ar gyfer ein holl ddigwyddiadau sydd wedi cael eu hamserlennu ar ein gwefan a thrwy Eventbrite, ac mae’r manylion ar gael isod. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o gyhoeddiadau ynglŷn â’r digwyddiadau.

Wythnos yn dechrau 4 Mai

Wythnos yn dechrau 11 Mai

Wythnos yn dechrau 18 Mai

Wythnos yn dechrau 25 Mai

Noder: Mae rhaglenni Arweinyddiaeth ION yn cael eu hariannu hyd at 70% gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i fusnesau neu unigolion sydd mewn ardaloedd cydgyfeiriant penodol. Fodd bynnag, cofiwch fod y rhaglenni hyn sydd dros y we yn agored i bawb.

Sylwadau