Arweinyddiaeth ION: eich adborth hyd yma
Hyd yma, mae tair carfan wedi dechrau yn Abertawe a Bangor, ac mae’r arweinwyr busnes rydym yn gweithio gyda nhw wedi cael cyfle i brofi’r rhaglenni newydd a dweud eu dweud amdanynt.
Mae’r adborth cadarnhaol rydym wedi'i gael wedi ein llorio, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu am eu sylwadau craff.
Y peth mwyaf cyffrous i ni yw gweld cymaint rydych chi wedi'i ddysgu am eich busnes ar ôl dim ond ychydig o sesiynau gyda ni:
“Mae’n rhaid newid i gyflawni nodau hirdymor”
“Mae angen i mi weithio gyda phob arddull arwain”
“Rwyf nawr yn gwybod sut mae fy ngweithlu'n teimlo”
Ond hefyd faint o bethau rydych chi wedi’i ailddysgu amdanoch chi’ch hun:
“Rydw i’n rheoli gormod o bethau, hyd yn oed pan nad ydw i’n bwriadu gwneud hynny”
“Mae angen i mi ddysgu meddwl mwy amdanaf i!”
“Deall sut rwy'n gweithio. Deall beth oedd yn gwneud i mi deimlo'n rhwystredig.”
Rydym yn falch mai dyma sut oeddech chi’n teimlo ar ôl y sesiwn dysgu drwy brofiad dros nos:
“Wedi fy ysbrydoli”,
“Wedi fy nghymell”,
“Wedi fy rhoi ar ben y ffordd”
Ac nid ydym am ymddiheuro am eich blino ar y diwrnod!
“Wedi blino'n lân! Ond yn llawn syniadau am sut y gallaf ddatblygu a chael mwy o effaith ar fy musnes.”
“Wedi blino’n lân ac wedi cyffroi.”
“Blinedig. Wedi fy ysgogi i fwrw iddi. Teimlo'n llawn grym.”
“Wedi blino - ond wedi fy ysbrydoli wrth ystyried faint a ddysgais amdanaf i'n hun - a beth sy'n fy wynebu.”
“Blinedig - ond yn falch o fod yn rhan o daith y rhaglen i ddysgu amdanaf i'n hun.”
“Wedi blino'n lân - mae fy meddwl yn brifo ond rwy'n edrych ymlaen at y daith sydd o fy mlaen.”
“Blinedig. Teimlo'n ddiamddiffyn ond yn ddiogel. Yn poeni, ond yn llawn cyffro.”
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld eto yn fuan, a phob dymuniad da i chi dros doriad yr haf!
Sylwadau