Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

ION leadership yn dathlu Diwrnod Ewrop 2016

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 6/5/2016 / ION leadership news

Europe_Day.JPG

Caiff Diwrnod Ewrop ei gynnal ar y 9fed o Fai bob blwyddyn.
Diwrnod i ddathlu heddwch ac undod yn Ewrop ydy hwn ac mae’n nodi pen-blwydd 'Datganiad Schuman'. Ar 9 Mai 1950, cyflwynodd Gweinidog Tramor Ffrainc, Robert Schuman, ei syniad am fath newydd o gydweithrediad gwleidyddol yn Ewrop, gan ddechrau’r broses a arweiniodd at sefydlu’r hyn yw’r Undeb Ewropeaidd heddiw.

Dathliadau Diwrnod Ewrop
Ddechrau mis Mai bob blwyddyn mae sefydliadau’r UE yn agor eu drysau i’r cyhoedd i ddathlu Diwrnod Ewrop. Hefyd, mae swyddfeydd lleol yr UE yn Ewrop ac ym mhob cwr o’r byd yn trefnu amrywiol weithgareddau a digwyddiadau.

Yn ION leadership rydym eisiau dathlu Diwrnod Ewrop drwy rannu’r holl gyflawniadau a wnaed yn bosibl hyd yma. Diolch i’r cyllid a gafwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru rydym yn gallu gwneud cyfraniad positif i Economi Cymru drwy wella sgiliau mentrau Cymreig a’u gwneud yn fwy cystadleuol.

Diolch i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, dros y 5 mlynedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda 900 o arweinyddion ac wedi cael canlyniadau nodedig:

Infographic.JPG

Mae ein cynrychiolwyr wedi cael llawer iawn o fudd o’r rhaglen:
https://www.youtube.com/watch?v=ROn-pXVGfIs

Ac maent hefyd wedi gwneud y mwyaf o’r gweithgareddau rydym wedi gallu eu trefnu:
https://www.youtube.com/watch?v=U2f-MoFdi5Y


Gyda chefnogaeth barhaus Cronfa Gymdeithasol Ewrop, gallwn ni’n awr fynd ymhellach fyth:
https://www.youtube.com/watch?v=-srIgXk6l0g

Ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodEwrop neu #EwropDay o gwmpas y 9fed o Fai ac ar y dyddiad hwnnw a chanfod beth all prosiect a noddir drwy gyllid gan yr UE ei wneud i chi ac i’ch busnes.

Sylwadau