Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Cyfweliad gyda Jonathan Hughes, Great Orme Brewery, Llandudno

Great Orme Brewery, Llandudno

Cyflwnwch eich hun I ni!

Jonathan Hughes wyf fi, Rheolwr Gyfarwyddwr, Great Orme Brewery ar Builder Street, Llandudno.

Sut ddaru chi gychwyn y busnes?

Roeddwn yn Ymgynghorydd am 10 mlynedd ac roedd y cwmni roeddwn yn gweithio iddo yn symud i ardal oedd tu allan i’m sgiliau canolog.  Felly, cymerais y cyfle i adael a symud yn ôl i Ogledd Cymru i’r fferm deuluol!  Roedd gennyf ychydig o wybodaeth cefndirol o fragu ond roeddwn yn ymwybodol fod pobl yn hoffi gwybod lle roedd eu bwyd a’u diod yn dod ohono.  Ar y pryd dim ond 3 bragdy lleol oedd yn bodoli yng Ngogledd Cymru a thyfodd y syniad o hyn.  Dros gyfnod o amser mae ein busnes wedi tyfu ac fe symudom yn ddiweddar o’r fferm i’r adeilad yr ydym ynddo nawr!

Jonathan_Hughes_distillery.JPG

Beth fydd 2016 yn ddod i ni?

Gobeithio bydd 2016 yn dod a mwy o dwf eto i ni.  Ers 2014 rydym wedi gweld twf o 60% yn ein trosiant.  Wedi’r twf, rydym wedi gweld twf yn ein “lager crefft” “Snowdon” a chwrw wedi’i botelu a gwerthiant “lager” a dylai hyn barhau i dyfu dros y flwyddyn hon.  Fel rhan o’n strategaeth i gyrraedd y nod yma rydym yn recriwtio Rheolwr Gwerthiant.  Yn y gorffennol rydym wedi caniatau i gynhyrchiant yrru’r twf ac nawr rydym yn ceisio datblygu i fod yn gwmni wedi’i yrru drwy werthiannau.

Mae bod yn Llandudno wedi rhoi cyfle i ni agor siop a bar/ardal blasu ynghyd â ystafell digwyddiadau.  Roeddem yn awyddus i greu presenoldeb yn y dref ac yn y gymuned.  Mae yna gryn hanes o fragu yn y gymuned leol mewn trefi ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a chredaf y gallwn ddatblygu linc tebyn yn Llandudno.

Jonathan_brewery.JPG

Beth mae diwrnod yn eich bywyd yn debyg iddo?

Fel mae’r cwmni wedi tyfu mae’r rôl wedi datblygu a newid.  Chwe mis yn ôl roedd gofyn i mi fod yn gallu troi fy llaw at bob dim!  Buaswn yn cael hyd i ateb i faterion amrywiol a thasgau gwahanol ar sail dydd i ddydd; cyllid, cynhyrchiant a danfon.   Roedd pob diwrnod yn wahanol!

Rwyf wedi dod yn fwy strategol fel mae’r cwmni wedi tyfu.  Rwyf yn rhoi Rheolwyr mewn lle ar gyfer Gwerthiant, Logisteg a Bragu er mwyn rhannu y cyfrifoldebau.  Gallaf nawr ddweud fy mod yn “gweithio ar y busnes nid yn y busnes”. Mae hyn yn golygu cael staff i wneud mwy o’r gwaith gweithredol a sicrhau fod ganddynt ddigon o gefnogaeth yn ystod y cyfnod yma.  Yn ail rwyf yn un o bedwar bragdy meicro sydd wedi dod at ei gilydd i brynu’r Albion a’r Bont yng Nghonwy a Thafarn Awstralia ym Mhorthmadog (ynghyd â Lawrence o Fragdy Mws Piws, sydd hefyd wedi mynychu rhaglen LEAD Cymru ym Mangor) mae’r busnes tafarn  yma yn tyfu mewn maint a chymhlethdod ac felly yn cymryd mwy o’m amser.  Felly mae’r angen i ddirprwyo gwaith yn fwy fwy pwysig.

Sut allwn ni gael gwybod mwy ?

Ffoniwch : Jonathan yn The Great Orme Brewery 01492 330 680

Cymerwch olwg ar ein gwefan: www.greatormebrewery.co.uk  

Facebook: https://en-gb.facebook.com/greatormebrewery/                    

Twitter: @welsh_ale

Sylwadau