Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Interview with Cath Harrison, Founder and Managing Director of JVP Group

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 1/8/2016

Cath_Presenting_Image.png1) Pwy ydych chi a beth ydych chi’n ei wneud?

Cath Harrison ydw i, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr JVP Group, arbenigwyr mewn recriwtio a phrosesau dethol effeithiol sy'n seiliedig ym Modelwyddan, Gogledd Cymru.

Mae JVP yn cefnogi cyflogwyr ar draws y DU i ddenu ac asesu talent yn effeithlon ac yn gosteffeithiol, mewn byd sydd gyda gymaint o ffocws ar y digidol ac yn datblygu drwy'r amser. Rydym yn gwneud hyn trwy ein dulliau cynhwysfawr ac unigryw i hysbysebu swyddi ar-lein, profi ymgeiswyr, a darparu ein meddalwedd rheoli ymgeisydd ar-lein arloesol. Mae tîm JVP yn dilyn dull a brofwyd sy'n cyfuno meddwl creadigol ffres gyda thryloywder cyflawn, a gwasanaeth sy’n heb ei ail.

2) Beth ysbrydolodd chi i lansio JVP?

Ar ol adeiladu blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant recriwtio, yn gweithio mewn asiantaethau ac o fewn timau fy’n hun, lansiais JVP fel ymateb uniongyrchol i dirlun recriwtio sy'n newid, yn enwedig o ran y defnydd o dechnoleg, a sut y gall cyflogwyr ddenu ac ymgysylltu'n uniongyrchol â darpar gyflogeion. Cafodd y penderfyniad i lansio JVP ei wneud tra'n cymryd rhan yn y rhaglen LEAD Cymru, lle 'roeddwn yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr busnes o'r un anian, a lle chefais gipolwg a'r sbectrwm eang o faterion busnes, gan gynnwys materion staffio a wynebir gan amrywiaeth o sefydliadau.

Gwelais fod rhwystredigaethau perchnogion busnes a gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol yn amrywio - ffioedd ymgynghorydd recriwtio uchel, eisiau bod yn rhan o'r broses recriwtio ond heb yr amser na'r adnoddau i wneud hyn yn iawn a.y.y.b. Gyda dros 90% o geiswyr gwaith yn chwilio am waith ar-lein, mi wnes i gydnabod bod y farchnad yn brin o wasanaethau hysbysebu recriwtio ar-lein cynhwysfawr sy'n cyfuno cefnogaeth arbenigol gan recriwtiwr profiadol, technoleg defnyddiwr-gyfeillgar, amlygiad eang swyddi gwag ac ymagwedd hollol dryloyw. O ganlyniad, cafodd JVP ei greu. 

3)      Beth yw eich moment mwyaf balch mewn busnes hyd yn hyn? 

Bu llawer o uchafbwyntiau ers i'r busnes gael ei lansio bron i dair blynedd yn ôl. 'Roedd derbyn yr adborth canlynol gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn Boots Hearingcare yn sicr yn dyst i waith caled y mae'r tîm yn rhoi mewn i ragori ar ddisgwyliadau ein holl gleientiaid ar draws y DU.

"JVP has enabled Boots Hearingcare to attract the best people, not only for our support office but for all our retail stores across the UK. The online portal provides a recruitment tool which allows us to display and promote our recruitment branding consistently for all vacancies across the UK and has driven real efficiencies in the time it takes to engage with applicants, key strengths for attracting the right candidates. The JVP team provide a first class expert recruitment service and have provided us with quality recruitment consultancy advice, despite us giving them extremely tight deadlines – none of which they failed to deliver against. They have the unique ability to be external recruitment specialists who feel like they work in my team." 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein llwyddiant a'r adborth hyfryd rydym wedi derbyn gan ein cleientiaid wedi ein harwain at ennill "Best for Online Recruitment Advertising UK - Corporate Vision Recruitment Awards 2015", ac ‘Excellence in Online Recruitment Advertising – UK -  Innovation & Excellence Awards 2016" gan Corporate Livewire. Yn ogystal, rydym wedi cael ein henwi yn y rowndiau terfynol am ddau ‘Entrepreneur Wales Awards’, ‘Global Recruiter Industry Award’, ac ar gyfer ‘Business Start Up Award’ yng Ngwobrau Busnes y Daily Post 2015. Fy eiliadau mwyaf balch ym myd busnes yw'r gydnabyddiaeth a dderbyniwyd gennym yn uniongyrchol gan gleientiau a chyrff dyfarnu mewn perthynas â 'n gwasanaethau.

JVP1.jpg

4)      Beth yw'r cyngor gorau y gallwch ei roi i unrhyw un sy'n edrych i ddechrau eu busnes eu hunain?

Mae un dyfyniad sydd o hyd dod i'm meddwl:

“If your business depends on you, you don’t own a business – you have a job. And it’s the worst job in the world because you’re working for a lunatic.”

Wrth i chi ddatblygu eich busnes, un o’r agweddau mwyaf allweddol yw sicrhau eich bod yn cael y tîm cywir yn ei le. Fel perchennog busnes, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cymryd yr amser i gynllunio a gweithio ar y busnes, yn hytrach nac ynddo. Bydd cael tîm dibynadwy, angerddol sy'n credu yn y busnes yn helpu i wthio eich busnes ymlaen.

5)      Lle allwn ni ddarganfod mwy amdan JVP Group?

Mae pop croeso ichi alw yn ein swyddfeydd ym Modelwyddan i sgwrsio dros banad, neu i ddysgu mwy am y gwasanaethau a gynigir gan JVP ymwelwch â www.JVPGroup.co.uk, ffoniwch ni ar 0844 967 4467 neu gyrrwch e-bost i services@JVPGroup.co.uk

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘Sioe Deithiol JVP’ dros y flwyddyn ddiwethaf, byddwn yn cyflwyno mwy o seminarau addysgiadol a diddorol ar gyfer gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol a pherchnogion busnes ar draws Gogledd Cymru a Sir Gaer. Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle yn ddi-dal ymwelwch â JVPGroup.Eventbrite.co.uk

 29th_June_Seminar_Image.JPG

Sylwadau