Gwybodaeth Bwysig am Raglenni
Yn dilyn datblygiadau pellach a phryderon cynyddol ynghylch y Coronafirws (Covid-19), rydym wedi penderfynu gohirio ein holl raglenni arweinyddiaeth arfaethedig yn Abertawe, Sir Benfro, Bangor a Gwinllan Llanerch.
Mae'r rhaglenni yn Abertawe, Sir Benfro a De Cymru oll wedi'u hail-drefnu a gellir dod o hyd i'r dyddiadau newydd (er y gallai'r rhain newid) ar ein tudalen cyrsiau. Byddwn yn gallu diweddaru'r wefan ar ôl i raglenni Bangor gael eu hail-drefnu.
Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Fodd bynnag, mae iechyd a lles ein cynadleddwyr ac aelodau’r tîm yn hollbwysig i ni.
Byddwn yn cysylltu’n rheolaidd â’r holl gynadleddwyr sydd eisoes wedi cofrestru ar y rhaglenni ac yn sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein gwefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol.
Nodir, oherwydd canllawiau’r Brifysgol, bydd aelodau o’r tîm ION yn gweithio gartref am y dyfodol agos. Os oes gennych gyfeiriadau e-bost aelodau unigol y tîm, cysylltwch â nhw neu, fel arall, e-bostiwch ionleadership@abertawe.ac.uk neu ionleadership@bangor.ac.uk a chaiff eich e-bost ei anfon ymlaen.
Sylwadau