Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

EBS Automation Astudiaeth Achos

Mae EBS Automation Ltd yn gweithgynhyrchu peiriannau pwrpasol at ddibenion penodol, yn cynnwys offer, jigiau a rhannau ar gyfer peiriannau aml-echel, a hynny ar gyfer cwsmeriaid o amrywiaeth o ddiwydiannau, yn cynnwys y diwydiannau Modurol, Rheilffordd, Fferyllol a Gwyddorau Bywyd. 

Mae'r peiriannau sy'n cael eu gweithgynhyrchu yn cael eu defnyddio gan gwsmeriaid o bob cwr o'r byd wrth gydosod amrywiaeth eang o gynhyrchion a/neu wirio ansawdd a swyddogaeth eitem, cyn iddi gael ei symud ymlaen i gam nesaf y llinell gynhyrchu.

Mae cwsmeriaid yn cyflwyno her i weithgynhyrchwyr, ac mae EBS Automation yn camu i'r adwy, gan gynnig ateb o'r dechrau i'r diwedd, yn cynnwys dylunio mecanyddol, dylunio trydanol, gweithgynhyrchu, gosod, a chynnal a chadw'r peiriannau sy'n rhan o linell weithgynhyrchu cleient.  Mae pob eitem sy'n cael ei gweithgynhyrchu yng nghyfleuster EBS Automation yn cael ei datblygu'n unol â gofynion unigryw'r cwsmer.

Mae'r cwmni, sydd wedi'i sefydlu ers dros 23 mlynedd, yn ymfalchïo yn ei allu i droi dalen wag o bapur yn ddatrysiad gweithgynhyrchu a fydd yn rhagori ar ddisgwyliadau'r cleient, ac yn cynnig lefel uchel o ansawdd, arloesedd, effeithlonrwydd, cadernid a chynhyrchiant. 

Mae peiriannau pwrpasol wedi'u gosod yn y DU, UDA, Twrci, Sbaen, Romania, Moroco, Rwsia, Y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl a Hwngari. Mae'r cwmni, sy'n dibynnu'n bennaf ar lafar gwlad ac ar ddenu cwsmeriaid eilwaith, ac sydd â'r gallu a'r adnoddau i ymgymryd â phrosiectau o bob maint, wedi gweithio ar gynhyrchion ar gyfer rhai o frandiau mwyaf eu maint a'u bri yn y sector modurol, yn cynnwys Audi, Jaguar Land Rover, BMW, Volvo, Ford, Nissan a Honda.  

Mae arloesi a gwella'n barhaus wrth wraidd ethos EBS Automation, a thros y 5 mlynedd diwethaf, mae wedi cychwyn ar daith sydd wedi newid y ffordd y mae'n gweithredu yn gyfan gwbl, gan arwain at gynnydd mewn trosiant a niferoedd staff.

Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mike Evans, yn egluro:

"Bum mlynedd yn ôl, roedd y sector gweithgynhyrchu mewn sefyllfa anodd iawn yn sgil y dirwasgiad byd-eang. 

Roedd cymryd rhan mewn rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth (LEAD Cymru) dan arweiniad Prifysgol Abertawe yn anadl einioes wirioneddol; cawsom y cyfle i gwrdd â busnesau eraill a oedd yn wynebu heriau tebyg, a cheisio datrys problemau gyda'n gilydd, rhannu profiadau, a dysgu llawer gan dîm cyflenwi'r rhaglen.”

“Mae dod o hyd i'r amser i arloesi yn her y mae pob un ohonom yn ei hwynebu, ac yn un yr ydym wedi ceisio mynd i'r afael â hi'n ddiweddar trwy gyflogi Laila Saikaki, Cydgysylltydd Gwelliant Parhaus penodedig."

Mae EBS Automation bellach wedi mapio pob proses yn y busnes, o dderbyn yr archebion cychwynnol, i ddosbarthu'r cynhyrchion terfynol, ac, wrth wneud hynny, mae wedi nodi 14 cam penodol yn y busnes, ynghyd â'r modd y gellir gwella cynhyrchiant o fewn y camau hyn.  Mae hefyd wedi datblygu asesiad risg 61 pwynt er mwyn gwerthuso'n systematig bob risg bosibl sy'n gysylltiedig â'r holl brosiectau yr ymgymerir â hwy.

Ym mis Medi 2015, cofrestrodd Laila a Mike ar gyfer rhaglen SIM Cymru, ac maent wedi treulio'r 10 mis diwethaf yn gweithio ar brosiect Newid, gan weithredu offeryn rheoli gweledol yn yr Adran Werthu. 

Roeddent wedi nodi, pe gellid gwella cyfathrebu rhwng y tîm gwerthu a gweithgynhyrchu ar y cam lle'r oedd prosiect yn newid o werthiant a gadarnhawyd i brosiect byw, y gellid ymestyn cwmpas y prosiect, lleihau amser cyflawni, a throsglwyddo'r arbedion cost dilynol i'r cwsmer.

Cyflwynwyd ffordd symlach o ymdrin â strwythur yr Adran Werthu, a hynny trwy ddatblygu 'bwrdd llwybr hedfan', a oedd i'w gweld ar wal y swyddfa werthu. Roedd y bwrdd hwn yn galluogi'r tîm gwerthu i reoli ymholiadau mewn modd gweledol, ac i fynd ar drywydd camau gweithredu o fewn terfynau amser penodedig.

Gwelwyd cyfathrebu mewnol a chynhyrchiant y tîm gwerthu yn gwella'n syth, ac mae hyn hefyd wedi gwella boddhad cwsmeriaid.  

Meddai Laila Saikaki, wrth sôn am y prosiect:

"Yn rhan o Raglen SIM Cymru, treuliwyd llawer o amser yn edrych ar ddynameg ymddygiadol a'r heriau y gall newid eu creu. Mae llawer o bersonoliaethau gwahanol yn ein sefydliad, fel sy'n wir am bob sefydliad, ac mae newid y ffordd y mae pobl wedi gweithio am lawer o flynyddoedd wedi cymryd amser a phenderfyniad.”

“Rydw i wedi dysgu llawer amdanaf fi fy hun yn rhan o'r prosiect hwn. Mae'r offer datrys problemau a'r sgiliau mapio prosesau yr ydym wedi eu dysgu wedi ein helpu i reoli'r broses hon ac i sicrhau newid gwerthfawr. Mae wedi bod yn gatalydd gwirioneddol ar gyfer newid, ac rydym eisoes yn symud ymlaen i'n prosiect nesaf, sef cynnal archwiliad 5S, er mwyn cynnal ansawdd, effeithlonrwydd a chynhyrchiant y gweithle."

Sylwadau