Cwrdd a'r Tim

Ceri Jones
Cyfarwyddwr Rhaglen ION Leadership a Chyfarwyddwr - Gwasanaethau Arloesi, Ymchwil ac Ymgysylltu, Prifysgol Abertawe
Mae Ceri yn Gyfarwyddwr Rhaglen ION Leadership a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Arloesi, Ymchwil ac Ymgysylltu.
Mae'n cyfarwyddo gweithrediadau Datblygu Busnes, Masnacheiddio IP, Cefnogaeth Ymchwil a Chyllid Ewropeaidd y Brifysgol ac mae ganddo brofiad helaeth mewn ymchwil ac arloesi a dealltwriaeth gadarn o'r cysylltiad rhwng y byd busnes a'r byd academaidd.
Roedd Ceri yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan Datblygu Gwybodaeth y Brifysgol, yn Bennaeth Dros Dro y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd cyn dechrau yn ei swydd bresennol. Mae wedi bod yn sbardun i nifer o brosiectau busnes strategol y Brifysgol gan gynnwys; LEAD Cymru, Partneriaeth Arloesedd y Ddraig, Rhwydwaith Menter Ewrop, Cyfnewid Gwybodaeth Cymru, A4B a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Gyda phrofiad sylweddol ym maes entrepreneuriaeth ac ymgysylltu â busnesau bach a chanolig, mae Ceri yn angerddol am y rôl y gall Prifysgolion ei chwarae yn natblygiad yr economi wybodaeth.

Suzanne Parry Jones
Arweinydd Prosiect a Rheolwr Rhaglen, Prifysgol Abertawe
Cafodd Suzanne 25 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o sectorau busnes, gan gynnwys gwerthiant hysbysebion, recriwtio, a gwerthiant meddygol, cyn cymhwyso fel seicolegydd hyfforddi a lansio ei busnes ei hun fel hyfforddwr ac arbenigwr datblygu arweinyddiaeth. Gan ddod â chyfoeth o graffter masnachol i’r rôl, mae Suzanne yn angerddol dros bobl a’u galluogi i ddatblygu boddhad yn eu bywyd yn y gwaith ac mae’n ymdrechu i rymuso timau i weithio tuag at eu nodau.
Adam Fairbank
Rheolwr Marchnata a Recriwtio Cyfranogwyr, Prifysgol Abertawe
Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad marchnata, ymunodd Adam â thîm ION yn 2018 fel arweinydd marchnata strategol. Gyda chyfrifoldeb am farchnata a recriwtio ein holl gyrsiau a digwyddiadau, mae Adam hefyd yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o’n brand. Wedi graddio o Brifysgol Morgannwg a’r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), mae Adam wedi gweithio yn y sector preifat yn flaenorol ac, yn fwyaf diweddar, mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus am fwy na 15 mlynedd.

Sibil Gruntar Vilfan
Cynorthwy-ydd Prosiect, Prifysgol Abertawe
Mae Sibil yn Gynorthwy-ydd Prosiect sy'n cefnogi swyddogaethau cyflwyno, gweithrediadau a dilysu cydymffurfiaeth y tîm. Ymunodd Sibil ag ION ar ôl treulio 3 blynedd yn ddiweddar yn gweithio yn yr adran Gyfreithiol yn Amazon yn Lwcsembwrg.

Clare Phillips
Rheolwr Cyllid, MAAT, FCCA, MBA, Prifysgol Abertawe
Mae Clare yn gyfrifydd cymwys ac mae ganddi fwy nag 20 mlynedd o brofiad mewn archwilio a chyfrifeg yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hi hefyd wedi bod yn diwtor ar gyfer y radd cyfrifeg ym Mhrifysgol Abertawe yn y gorffennol ac mae’n angerddol dros gael pobl i gyflawni eu llawn botensial.

Mannon Briggs
Cynorthwyydd Prosiect, Prifysgol Bangor
Mae gan Manon dros 12 mlynedd o brofiad o weithio mewn amgylchedd Prifysgol. Mae wedi gweithio ar raglen LEAD Cymru ac mae ganddi wybodaeth helaeth am reoli digwyddiadau. Mae hi hefyd yn Drysorydd Clwb Criced Bethesda.

Lorraine Hopkins
Rheolwr y Rhaglen, Prifysgol Bangor
Dechreuodd gyrfa Lorraine fel ymchwilydd o fewn tîm amlddisgyblaethol o economegwyr a seicolegwyr a gomisiynwyd gan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch Gweithredol i nodi gwerth ystadegol bywyd. Wedyn trodd Lorraine ei llaw at sefydlu swyddfa ranbarthol gyntaf Gogledd Cymru ar gyfer elusen Arts & Business Cymru, sefydliad sy’n ffurfio partneriaeth rhwng y byd busnes â’r celfyddydau er budd y ddwy ochr, ac ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr anweithredol i’r sefydliad celfyddydol Articulture, sy’n hyrwyddo celfyddydau awyr agored yn yr economi greadigol. Yn 2011, ymunodd Lorraine â’r busnes teuluol Home Improvements ar Ynys Môn, gyda chyfrifoldeb am gyllid ac AD. Fel Cyd-Gyfarwyddwr roedd yn gyfrifol am dîm o 25 o bobl a ddatblygodd gwmni twf uchel a ddaeth yn arweinydd marchnad yn ei faes. Drwy gydol ei gyrfa amrywiol, mae Lorraine wedi parhau i addysgu oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu mewn ysgol nos ac, yn fwyaf diweddar, mae wedi cynyddu ei phrofiad, gan gymhwyso fel Hyfforddwr Gweithredol. Ei hangerdd fel Addysgwr wnaeth iddi ddychwelyd i’r byd academaidd ac i gymryd swydd gyda thîm ION leadership ym Mhrifysgol Bangor.

Brian Pigott - ION Steering Group Member
Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol, Macro Cable Management
Mae Brian yn gyn-gyfranogwr gydag ION.
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Brian yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.

Ieuan Wyn Jones - ION Steering Group Member
Cyfarwyddwr - Parc Gwyddoniaeth Menai
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Ieuan yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.

Mike Learmond - ION Steering Group Member
Uwch Reolwr Datblygu - FSB Gogledd Cymru
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Ieuan yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.

Ian Rees - ION Steering Group Member
Cadeirydd - Cyngor Rheolaeth Cymru
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Rob yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.

Rob Basini - ION Steering Group Member
Rheolwr Datblygu FSB (De Cymru)
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Rob yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.
Dr. Siwan Mitchlemore - ION Steering Group Member
Uwch Ddarlithydd mewn Busnes a Rheolaeth - Prifysgol Bangor
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Siwan yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.
Emma Dunbar - ION Steering Group Member
Pennaeth Ymgysylltu, Arloesedd ac Entrepreneuriaeth - Prifysgol Abertawe
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Emma yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.
Stephen Jones - ION Steering Group Member
Uwch Ddarlithydd, Ysgol Reolaeth - Prifysgol Bangor
Fel aelod o Grŵp Llywio ION, mae Stephen yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen ION.