Crynodeb digwyddiad
Mae ION Leadership yn creu cyfleoedd dysgu a fflachiadau o ysbrydiolaeth drwy ofyn i arweinwyr busnes llwyddiannus rannu’u storïau.
Ymunwch â ni yn y Royal Mint Experience yn Llantrisant ar gyfer ein digwyddiad ‘Sgwrs Arweinyddiaeth’ cyntaf yn 2019, lle bydd y gwesteion yn:
- Clywed gan arweinwyr busnes llwyddiannus sut mae tyfu busnesau drwy gyfnodau o newid
- Cymryd rhan mewn gweithgaredd rhyngweithiol
- Dysgu mwy am ION Leadership
- Rhwydweithio ag arweinwyr busnes lleol
Siaradwyr:
Sarah Bradley, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, y Bathdy Brenhinol
Ymunodd Sarah â’r Bathdy Brenhinol yn 2009 fel Pennaeth Adnoddau Dynol a daeth yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn 2015.
Mae ganddi brofiad rhyngwladol helaeth ym maes adnoddau dynol, datblygu dysgu a newid sefydliadol, a hithau wedi gweithio yn y gorffennol i Mercury Communications, UCI Cinemas a Gwasanaeth TG Siemens lle’r oedd hi’n Bennaeth Adnoddau Dynol. Wedyn symudodd Sarah i Seland Newydd lle bu’n gweithio i nifer o adrannau Llywodraeth ac NZ Deloitte fel Ymgynghorydd Adnoddau Dynol.
Bydd Sarah yn trafod arwain newid yn y Bathdy Brenhinol.
Tony Dowling, Rheolwr Gyfarwyddwr, Novo Consultancy
Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad ym maes gwerthu, marchnata a thrawsnewid digidol, mae Tony wedi gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Real Radio a’r South Wales Evening Post ac wedi arwain prosiectau trawsnewid digidol mewn sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae Tony hefyd yn Aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru.
Bydd Tony yn trafod rôl pobl o fewn y broses trawsnewid digidol.
Manylion y Digwyddiad:
Bydd y cofrestru a’r rhwydweithio yn cychwyn am 9am a’r prif ddigwyddiad yn cychwyn am 9.30. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn dod i ben am 11.15.
Bydd lluniaeth ar gael ac mae lle parcio am ddim ar gael ar y safle.