Crynodeb digwyddiad
Mae rhaglenni Arweinyddiaeth ION yn cynnig cyrsiau dwys, cysylltiol ac effeithiol sydd wedi’u teilwra ar gyfer pobl gyda profiadau amrywiol o arweinyddiaeth. Erbyn hyn mae’r rhaglenni wedi gweithio efo dros 150 o arweinyddion busnes yng Ngogledd Cymru dros y tair blynedd diwethaf. Mae rhaglenni arweinyddiaeth ION yn cael eu cynnig gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac maent wedi’u rhan-ariannu gyda £2.7m o arian sydd yn cynnig hyd at 70% o’r gost gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae’r rhaglen Arweinyddion Newydd wedi’i dylunio yn arbennig ar gyfer datblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth Arweinyddion Tim, Goruchwylwyr a Darpar Reolwyr neu Reolwyr Newydd sydd yng nghyfnod cynnar eu datblygiad fel arweinyddion. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar drosgwlyddo gwybodaeth a sgiliau fydd yn galluogi twf a chynaliadwyedd ar gyfer eu sefydliadau a hwn fydd y tro cyntaf iddynt gael eu cynnig yn Aberystwyth.
Bydd y digwyddiad yma yn cynnig cyfle i chi:
- Glywed gan y tim a datblygu gwell dealltwriaeth am raglenni llwyddiannus Arweinyddiaeth ION
- Cyfarfod gyda busnesau sydd wedi cwblhau rhaglen debyg iawn yn Aberystwyth, sef rhaglen LEAD Cymru, a chlywed am fuddion cyrsiau o’r math yma.
- Cael gwybodaeth pellach am sut i gymryd rhan neu elwa o’r rhaglenni.
Mae’r linciau isod yn eich arwain at erthyglau ynglyn â mynychwyr rhaglenni Arweinyddiaeth ION a’r budd maent wedi’u cael o fynychu:
TG Williams Building Contractors: https://wales247.co.uk/north-wales-builder-doubles-turnover-and-unveils-plans-for-major-expansion/
Egniol Environmental: https://wales247.co.uk/engineers-winning-new-business-and-growing-in-confidence-thanks-to-leadership-programme/