Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar:
01792 606738 Abertawe neu 01248 382497 Bangor.

ION Leadership: Dathlu Busnesau Cymreig

Manylion digwyddiad
6 Tachwedd
Liberty Stadium, Swansea
8:30am - 3:30pm
£10.00 eich cyfraniad

Crynodeb digwyddiad

Yn 2019 bydd arweinyddiaeth ION yn dathlu 10 mlynedd o ddatblygu arweinwyr eithriadol. I ddathlu hoffem yn fawr eich gwahodd i ymuno â ni yn Stadiwm Liberty, Abertawe i:

  •          Glywed gan arbenigwyr blaenllaw ym myd diwydiant
  •          Cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol
  •          Trefnu apwyntiadau gydag arbenigwyr busnes a all eich cynghori ar wahanol feysydd eich busnes
  •          Darganfod sut y gallwch chi gymryd rhan, a chael budd o raglenni i’r dyfodol
  •          Rhwydweithio gyda busnesau lleol yn ein ‘marchnad’.

Mae’r siaradwyr yn y digwyddiad hyd yma yn cynnwys cynrychiolwyr o Ddistyllfa Penderyn, Chwarae Teg a Phrifysgol Abertawe - gan gynnwys Cyfarwyddwr y Sefydliad Arweinyddiaeth Entrepreneuraidd Paul Hannon a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi Ceri Jones. Bydd Cyfarwyddwr Rhaglen arweinyddiaeth ION, Gary Walpole, hefyd yn siarad yn y digwyddiad.

Byddwn yn cyhoeddi siaradwyr pellach yn ystod y cyfnod yn arwain at y digwyddiad. Cadwch lygaid ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am gyhoeddiadau yn y dyfodol.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .

 

ION leadership 16 Aug

"One of the best things I've ever done in my life...giving me a new sense of identity". Ashley Miles from… twitter.com/i/web/status/1…