Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar (NLB8) - Ar lein & Bangor

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
Dydd Gwener 26 Mawrth 2021
Ar lein & Bangor
ILM lefel 3
TBC
O £0 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

Sylwer, yn ystod y pandemig Coronafeirws presennol, cyflwynir y rhaglen hon drwy ddysgu cyfunol. Cyflwynir y rhaglen yn rhithwir trwy Zoom a’r bwriad yw cyflwyno ar sail wyneb yn wyneb pan fydd y Llywodraeth yn llacio’r mesurau a’r rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ar gyfer gweithgareddau grŵp.

-----------------------------------------------------------------------------

  • Darganfod dulliau arweinyddiaeth cyfoes
  • Darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl
  • Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
  • Gwella perfformiad busnes, gyrru cynhyrchiant a chreu gwerth ar gyfer cwsmeriaid. 

Mae'r rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd ar gamau cynnar datblygu eu sgiliau arwain.   Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd eu sefydliadau.  

Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â rolau lluosog o fewn eu sefydliad ar gyfnod cynnar, wrth iddyn nhw gydbwyso anghenion gweithredol a strategol o ddydd-i-ddydd y busnes. Maen nhw wedi cyrraedd cam lle maen nhw’n datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, yn dirprwyo cyfrifoldeb i dîm medrus wedi ei rymuso ochr yn ochr â dysgu sut mae arwain ac nid dim ond rheoli.  

Mae ein rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull eu hunain o ymwneud ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried rolau a thasgau’r tîm i greu fframwaith busnes cryf ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad.

Strwythur rhaglen

Strwythur rhaglen

  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
  • Dysgu gan gyfoedion a grwpiau cynllunio gweithredu
Diwrnod Sylfaen
Deall y daith i arweinyddiaeth effeithiol
26 Mawrth 2021 -
Digwgddiol Dysgu
Bwtcamp 2 ddiwrnod
27 & 28 Ebrill 2021 -
Arwain eich hunan
Deall arweinyddiaeth
12 Mai 2021 -
Arwain pobl
Sut rydyn ni’n gweithio gyda phobl a busnesoedd
16 Mehefin 2021 -
Arwain Twf
Sut gallwn ni ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau
14 Gorffennaf 2021 -
Y Daith Ddysgu
Myfyrio a cynllunio gweithredu
2 Medi 2021 -

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .