Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar (NLB7) - Ar-lein & Bangor

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
Dechrau 7fed Hydref 2020
Bangor
ILM Lefel 3
09:00-17:00
O £0 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

**Nodwch os gwelwch yn dda y gall rhai o’r dyddiadau neu drefn sesiynau gael eu diwygio cyn y Diwrnod Sylfaen.    Byddwn yn cadarnhau amseroedd cychwyn y sesiynau cyn y dyddiad cychwyn.  Oherwydd rheoliadau Covid19 efallai bydd angen i ni newid dyddiad y Digwyddiad Dysgu sydd ar hyn o bryd wedi’i drefnu ar gyfer Chwefror 2021 – mae hyn yn ddibynnol ar Reoliadau Pellhau Cymdeithasol a Chyfarfodydd** 

  • Darganfod dulliau arweinyddiaeth cyfoes
  • Darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl
  • Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
  • Gwella perfformiad busnes, gyrru cynhyrchiant a chreu gwerth ar gyfer cwsmeriaid. 

Mae'r rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd ar gamau cynnar datblygu eu sgiliau arwain.   Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd eu sefydliadau.  

Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â rolau lluosog o fewn eu sefydliad ar gyfnod cynnar, wrth iddyn nhw gydbwyso anghenion gweithredol a strategol o ddydd-i-ddydd y busnes. Maen nhw wedi cyrraedd cam lle maen nhw’n datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, yn dirprwyo cyfrifoldeb i dîm medrus wedi ei rymuso ochr yn ochr â dysgu sut mae arwain ac nid dim ond rheoli.  

Mae ein rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull eu hunain o ymwneud ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried rolau a thasgau’r tîm i greu fframwaith busnes cryf ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad.

Strwythur rhaglen

  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
  • Dysgu gan gyfoedion a grwpiau cynllunio gweithredu
Diwrnod Sylfaen
Deall y daith at arweinyddiaeth effeithiol
7fed Hydref 2020TBC - TBCTBC
Arwain eich hunan: Dosbarth meistr 1
Deall arwein y ddiaeth
21ain Hydref 2020TBC - TBCTBC
SDG
Setiau Dysgu Gweithredol
3ydd Tachwedd 2020TBC - TBCTBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 2
Sut rydy'n ni'n gweithio gyda phobl
18fed Tachwedd 2020TBC - TBCTBC
SDG
Setiau Dysgu Gweithredol
9fed Rhagfyr 2020TBC - TBCTBC
Arwain Twf: Dosbarth meistr 3
Sut gallwn ni ddefnyddio adnoddau
19eg Ionawr 2021TBC - TBCTBC
Digwgddiol Dysgu
2 ddiwrnod
3ydd & 4ydd Chwefror 2021TBC - TBCTBC
Y Daith Ddysgu
Myfyrio, cynllunio gweithredu a graddio
11eg Mawrth 2021TBC - TBCTBC

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .